Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWYDDION DA. Cyf. II. Rhif. 18] MEHEFIN, 1893. [Ail Gyfres. Y PARCH. JOHN G. PATON, D.D. ©ARLUN yw yr uchod o Dr. Paton, Cenadwr yn y New Hebrides neu Ynysoedd Môr y Dê. Tua dwy neu dair blynedd yn o* cyhoeddwyd dwy gyírol o haDes ei fywyd a'i anturiaethau, dan olygiad ei frawd, yr hwn sydd yn weinidog yn Ysgotland. Mae dyddordeb cynwysiad y cyfrolau y fath fel y daethant yn fuan yn dra phoblogaidd ; ac erbyn hyn y mae miloedd yn y wlad hon a gwledydd ereill wedi eu darllen gyda budd a mwynhad neilíduol. Fel yr hysbysir yn ein Nodiadau Cyífredinol yn rhifyn Mai, anfonwyd yn ddiweddar at nifer mawr o arweinwyr crefyddol y gwahanol enwadau i ofyn pa rai, yn ol eu barn hwy, oedd y deg llyfr cenadol goreu. Wedi rhoddi yr atebion at eu gilydd, yr uwchaf ar y rhestr yw Hunan-gofiant J. G. Paton. Nid yw pawb yn cytuno gyda golwg ar deilyngdod llenyddol y llyfr; ond, gan nad beth am hyny, bydd enw Dr. Paton am ganrifoedd i ddyfod yn meddu lle uchel ac amlwg yn mhlith arwyr y meusydd cenadol. Nid ydym yn bwriadu ceisio rhoddi gerbron ein darllenwyr ei hanes gyda nemawr o fanylder ; yr oll yr amcanwn ei wneud fydd rhoddi ambell ddalen o'i Fywgraffiad—ambell hanesyn am dano, wedi eu cymeryd yn benaf o argraffiad rhatach o'i Gofiant a elwir—Thc Story of J. G. Paton toldfor Young Folfo.