Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWYDDION DA. Rhif. 12.] RHAGFYR, 1892. [Ail Gyfres. Y PARCHEDIG EVAN EVANS, DEHEUBARTH AFFRICA. II. N rhifyn Mehefìn rhoddwyd yr| ychydig sydd ar gael o hanes Evan Evans, o'i enedigaeth yn Llanrwst, Tachwedd 2iain, 1792—gan' mlynedd yn ol—hyd ei ordeiniad yn y Bala, Awst yr 2iain, 1816. Yn Newyddion Da am Mai, 1885, dywed Dr. Thomas iddo " ddechreu pregethu pan tuag ugain oed; a chael ei anfon, wedi ei dder- byn yn ymgeisydd cenadol, i'r Athrofa yn Gosport, o dan Dr. Bogue, lle y bu am o ddwy i dair blynedd ; a'r lle y gwnaeth gynydd da yn y Saesonaeg, yn gystal ag yn y Lladin a'r Groeg." Wedi ei ordeiniad aeth yn ddioed am daith trwy Sir Fôn, a thrwy rai siroedd ereill. " Yr oeddwn i," medd Dr. Thomas, " yn rhy ieuanc i mi allu cofio dim am dano ar yr adeg hono ; ond mi a gofiais byth y penill a roddodd efe allan yn Nghaergybi ar ol pregethu, a'r hwn, fe ddywedid, a roddid allan ganddo yn mhob man yr ymwelai âg ef:— " « Os rhaid 'madael dros ychydig, Rhwymed Duw ni oll yn un ; Arfau'r nefoedd i ryfela, Gwisg o'i drefniad Ef ei Hun : Ar fy nhaith o bererindod, Hyny beunydd fyddo'm Uef, Cael cyfarfod y tro nesaf, Yn fwy tebyg iddo Ef.' Fe ddywedwyd wrthyf, gan rywun, mai Mr. Evan Evans, o Drefriw y pryd hyny (Ieuan Glan Geirionydd), oedd awdwr y penill." Gan mai w yr i6eg o Ragfyr, 1812, y ganwyd Dr. Thomas, rhaid ei fod rai mis- oedd dan bedair blwydd oed pan y pregethai Mr. Evans yn Nghaergybi. Priodwyd Mr. Evans yn Llanidloes âg Ann, merch Thomas a Mary Jones, o'r lle hwnw. Ganwyd hi y 5ed o Orphenaf, 1799 ; ac felly nid oedd ond prin dri mis uwchlaw 17 mlwydd oed ar adeg eu priodas. Dywed Mr. Thomas Williams (Hafrenydd), Llanidloes, fod " ei thad a'i mam yn bobl barchus iawn." " Yr oedd ei thad," medd yn mhellach, " yn hen gantor campus, ac yn athraw mor gampus ar ddosbarth mawr Beiblaidd; ac un rhyfeddol o fanwl gyda'r dosbarth ydoedd. Ac yr oedd y plant oll yn gantoriou bron diail.....Yr oedd Thomas Jones yn fantul manufacturer ; ac yr oedd hyny y pryd hwnw yn gosod tipyn lew o ^pectabüity ar ddyn. Dywed Mr. Richard Mills iddo glywed mai nid Jjrodor o Lanidloes ydoedd, ac mai o Raiadr Gwy y daeth yma. Ond o ba le bynag y daeth, yr oedd ef a'i deulu yn gantorion rhagorol fel lleis- wyr, ac yn tynu sylw pawb." Yn ol tystiolaeth Hafrenydd, y 6ed o Fedi, 1816, oedd dydd eu priodas. A dywed ef mai felly y mae yr argraff ar gareg fedd Evan Evans yn jjtynwent Eglwys Llanidloes. Ond yr wyf yn methu cysoni ỳ dyddiad y â'r hyn a ddywed Evan Evans ei hun yn ei lythyr at y Parchedig V ^iam Roberts, Amlwch. Yn ol y Uythyr hwnw (gwel GoUuad Cymru, ^' Í9-2I) ar y 23ain o Fedi y cymerodd y briodas le.