Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWYDDION DA. Rhif. io.] HYDREF, 1892. [Ail Gyfres. LLONGAU CENADOL. 'ELE uchod ddarlun o'r agerlong newydd—y Good-will, fel ei gelwir—a adeiledir yn awr at wasanaeth Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr i'w defnyddio ar ddyfroedd y Congo Uchaf. Fel y gwelir, y mae yn llestr hardd a hwylus iawn at y gwaith a fwriedir iddi. Ei hyd yw 84 o droedfeddi, a'i lled 13 o droedfeddi. Yr oedd gan y Gymdeithas agerlong fechan arall o'r enw Peace er's rhai blynyddau yn gwneud gwaith rhagorol ar y Congo, yr hon a gafwyd trwy garedigrwydd un o'r enw Mr. Arthington, o Leeds, yr hwn a roddodd £4000 tuag ati. Maint hon ydyw 70 o droedfeddi wrth io£. Bydd y Good-will yn abl i gario dwbl yr hyn a gynwysai y Peace, ac felly yn ych- wanegiad gwerthfawr at gysur y Cenadon, ac yn hwylusdod dirfawr i'r gwaith. Mewn rhifyn blaenorol o'r Newyddion Da (Ionawr, 1888) yr ydym yn darllen mai y llong gyntaf y ceir hanes am dani wedi ei neillduo yn gwbl i'r amcan Cenadol oedd y Duff, yr hon a brynwyd gan Gymdeithas Genadol Llundain yn 1796, ac yn yr hon yr hwyliodd naw-ar-hugain o Genadon allan yn Awst y flwyddyn hono, i Ynysoedd Môr y De'. Yn yr unllestr yr hwyliodd naw-ar-hugain drachefn yn mis Rhagfyr, 1798; yn ystod y fordaith hon cymerwyd y Duff yn prize gan long rhyfel Ffrengig, a gwnaed yr holl Genadon yn garcharorion. Dychwelodd y nifer fwyaf o honynt i Loegr—ar ol absenoldeb o tua deng mis—wedi dyoddef llawer o galedi a rhai triniaethau chwerwon iawn. Ar ol hyn adeiladodd John Williams, y Cenadwr enwog, long o ddeg-a-thriugain o dunelli a alwyd ganddo " The Messenger of Peace" (Cenad Hedd). Prynwyd y Camden at wasanaeth y Gymdeithas ar ol hyny. Erbyn hyn y mae nifer y llongau sydd yn y gwasanaeth Cenadol yn llynges gref. Jrydym wedi darllen llawer am y llestr u jjohn Williams " yn Ynysoedd Môr y De'; talwyd am y llestr hon a thelir ei threuliadau gan blant yr