Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWYDDION DA. Rhif. 7.] GORPHENAF, 1892. [Ail Gyfres. LLYTHYR ODDIWRTH Y GOLYGYDD. At y Parchedig Owen J. Owen, M.A. NWYL GYFAILL,—Goddefwch i mi gyflwyno i chwi fy niolchgarwch am eich parodrwydd i ymgymeryd â golygiaeth Newyddion Da tra y byddaf ar fy nheithiau yn Unol Dalaethau yr America. Nid oes genyf amheuaeth na chewch gymorth parod, fel y cefais inau, o lawer o gyfeiriadau. Yr wyf yn ysgrifenu y Uythyr hwn ar fwrdd yr Arizona, perthynol i'r Guion Line, ar fy nhaith tuag Efrog Newydd. Gobeithiwn gyraedd yno boreu ddydd Llun. Yr ydym wedi cael mordaith dra chysurus, oddi- eithr fod y môr dipyn yn arw ddydd Llun ; ac wedi derbyn y caredig- rwydd mwyaf oddiwrth y swyddogion a'r dwylaw oll. Y mae y cwmni ar y bwrdd hefyd yn dra dymunol. Nid ydym yn rhy luosog ; ac felly ni buom yn hir cyn dyfod i adnabod ein gilydd yn lled dda. Y mae yma un hynafgwr dyddorol o Stoclcholm, yn Sweden, yr hwn sydd yn brif- athraw Coleg y Bedyddwyr yno. Yn 1848 y pregethwyd yr efengyl gyntaf gan un o'r Bedyddwyr yn y wlad hono ; ond y mae yno erbyn hyn 36,000 o gymunwyr. Y mae yn y Coleg o dri i bedwar dwsin o wŷr ieuainc yn ymbarotoi ar gyfer y weinidogaeth. Y mae yma hefyd Efengylydd, yn perthyn i'r Plymouth Brethren, sydd wedi bod yn llafurio yn yr America er's ugain mlynedd. Ond y rhai mwyaf dyddorol i mi ydyw y Cenadon ar y bwrdd. Un o honynt sydd Americanwr, yn perthyn i Genadaeth Presbyteriaid Unedig yr America, wedi bod yn llafurio yn y Punjâub, yn India, am ddeng mlynedd, ac yn dychwelyd adref am ychydig seibiant ac adfywiad. Y mae yr enwad hwn yn glynu yn gaeth wrth yr hen arfer o ganu y Salmau yn unig yn eu haddoliad. Rhydd hanes tra chalonogol am y gwaith yn y dosbarth y llafuriai ynddo. Ymddengys yn ddyn tra difrifol, a threulia lawer o'i amser i ddarllen ac efrydu ei Feibl. Gwyddai am ein Cenadaeth ni ar Fryniau Khasia, ac am y llwyddiant mawr sydd wedi bod ar ei gweithrediadau. Ond y gẁr sydd wedi llanw fy ysbryd âg edmygedd a pharch ydyw yr Esgob Cenadol sydd gyda ni—Ésgob y Mackenzie River, yn Ngogledd- ddwyreinbarth Canada—sef Dr. William Day Reeve. Yr wyf newydd fod yn gwrando arno yn traddodi anerchiad i'r Intermediate Passengers ar ei "fywyd a'i lafur " yn mysg yr Indiaid cochion; ac erioed ni wran- dewais anerchiad mwy gwir ddyddorol. Cyn dodi i lawr ychydig o'r hyn a ddywedwyd ganddo, goddefer unTieu ddau o grybwyllion am y diriogaeth y mae yn Uafurio ynddi. Perthyna ei Esgobaeth i dalaeth Rupertsland. Seíydlẃyd Esgobaeth Rupertsland yn 1849, a'r Esgob