Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWYDDION DA. Rhif. 5.] MEHEFIN, 1892. [Ail Gyfrbs. Y DIWEDDAR BARCH. W. WILLIAMS, Y CENADWR. , A genym allu anrhegu ein darllenwyr â darlun o'r Parch. William Williams, gynt o Shella, ond yn ddiweddar o Mawphlang, yr hwn y mae Methodistiaid India a Chymru heddyw yn galaru oherwydd ei golli mor fuan ac mor annysgwyliadwy. Bu farw am un o'r gloch boreu dydd Gwener, Ebrill 22ain, ar ol ychydig wythnosau o gys- tudd, o'r tyỳhoid fever, pan nad ydoedd eto ond 33ain mlwydd oed. Gostyngwyd ei nerth ar y ffordd ; cymerwyd ef ymaith yn nghanol ei ddyddiau, ond nid cyn rhoddi profìon diameuol ei fod yn filwr da i Iesu Grist, yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei A.rglwydd, ac yn meddu ar lawer o gymwysderau arbenig ar gyfer y gwaith mawr a gogoneddus ag yr oedd wedi cysegru ei hunan mor llwyr iddo.