Skip to main content

NEWYDDION DA. Rhif. 2.] CHWEFROR, 1892. [Ail Gyfres. ADGOFION AM Y DIWEDDAR BARCH. T. JERMAN JONES. GAN Y PARCHEDIG WILLIAM WILLIAMS, GLYNDYFRDWY. REDAF y bydd darllenwyr y Newyddiom Da yn gyffredinol yn barod i gydnabod fod y diweddar Mr. Jerman Jones, ar gyfrif ei gymwysderau arbenig a'i ysbryd ymroddgar a hunan-ymwadol, yn haeddu cael ei osod yn rhestr uwchaf Cenadon Cristionogol y ganrif hon. Pe buasai ei athrylith a'i lafur mor hysbys i'r Saeson ag ydynt i ni y Cymry, ni fuasai ei glod yn gyfyngedig i'w genedl ei hun. Mae llwyddiant anarferol ein Cenadaeth yn Rhasia yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf wedi dwyn ein Cenadaeth, er mai bechan ydyw i, sylw y byd Cristionogol ; ac y mae ein Cenadon galluog a ffyddlon sydd eto ar y maes yn unfrydol yn rhoddi i Mr. Jerman Jones y lle blaenaf yn mysg yr offerynau dynol a ddefnyddiodd Pen Mawr yr Eglwys i ddwyn oddi amgylch y llwyddiant hwn. Y mae yn hysbys fod bwriad i ddwyn allan gofiant am y Cenadwr ffyddlon hwn, dan awdurdodiad cyfarwydd- wyr y Genadaeth ; ac os efe íydd y cyntaf o'n Cenadon y cyhoeddir llyfr 0 Fywgraffiad iddo, nid yr unig reswm am hyny fydd, y rhaid dechreu rywbryd, ac y rhaid i rywun fod yn gyntaf; ond nid oes berygl i'r ffaith fod Jerman Jones yn myned i gael Cofiant yn y ffurf o lyfr y gall plant ein heglwysi ei ddarllen fod yn un rhwystr i'r lleill o'n Cenadon ymadawedig gael teyrnged gyffelyb o barch i'w coffadwriaeth; yn hytrach gall hyn fod yn symbyliad i rywun grynhoi braslun o hanes amryw o honynt i un llyfr addas i'w ddarllen gan ieuenctyd ein gwlad. Pa fodd bynag nid yr amcan yn yr ychydig nodiadau a wneir genyf fi fydd ysgrifenu cofiant am fy anwyl frawd a'm hen gyfaill ymadawedig, ond dodi ger bron ychydig o adgofion am dano allant fod yn dd)ddorol i rai, am fod pethau cydmariaethol ddibwys yn dderbyniol gan blant dynion am y rhai y maent y dra hoff o honynt. Pan aethum i Glynnog yn nechreu Chwefror yn y flwyddyn 1860, i ofyn i'r hyglod Eben Fardd a gawn i ddyfod i'w ysgol, gofynais iddo hefyd a wyddai am le y gallwn gael lletya ynddo. Dywedai yntau ei fod yn meddwl y gallswn gael llety cysurus gyda chwpl o hen bobl oedd yn byw yn y Garnedd ryw haner milldir o'r pentref, ar y Lôn Ganol, sef y ffordd o Glynnog i Lanllyfni. A rhag ofn i'r olwg ddistadl ar y tý a'i breswylwyr fy siomi pan y gwelwn hwynt, dywedodd, "Y maeyno fechgyn parchus wedi bod yn lletya, yno yr oedd Edward Griffiths, Pentir, a rhomas Jerman Jones, cyn iddynt fyn'd i'r Bala." Trwy ddilyn cyfarwyddyd y Bardd daethum o hyd i hen dŷ y Garnedd gyda'i dô gvvellt, yn nghanol rhyw erw neu lain fechan dwmpathog mewn neilldu- aeth dyladwy oddi wrth y ffordd. Pe buaswn yn meddu y ddawn a ddengys Hugh Miller yn ei " My Schools and School Masters," wrth ddarlunio y bythynod y byddai yn lletya ynddynt a'u preswylwyr gwreiddiol, ni fuasai darllenwryr y Newyddion Da yn gwarafun i mi