Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(£|ẃ|mraiíjj £r jjsjgol j&abfortjjooi Rhif 58.J*'1 RHAGFYR, 1888. [Cyf. IV. gr pmìmfomfr ìttfottrìmf. 2 Thes. ii. 1—12. GAN Y FARCH. E. C. MORRIS, TON-YSTRAD. ?E oedd disgwyliad cyffredinol yn yr oes apostolaidd am yr hyn a alwent " Dydd yr Arglwydd." Y syniad cywiraf arn hyn oedd, ei fod yn golygu dyfodiad Crist at ei Eglwys, a'i arosiad gyda hi dros ryw gyrnaint o amser. Yr oedd prophwydoliaethau yr Hen Destament, ac i raddau, dysgeidiaeth Crist ei hun, yn cyfrif am fodol- aeth syniad o'r fath; ond nis gallesid dal y rhai hyn yn gyfrifol am y dyb gyfeiliornus a gredid ar y pryd, fod "Dydd yr Arglwydd" yn agos.\ Yr oedd y disgwyliad cyffredinol fod y Dydd yn agos yn gwneyd llawer o niwed. Yr oedd yn taro pawb â dychryn; a'r caniyniad oedd, difaterwch yn nghylch gorchwylion tymhorol. Ac amcana yr Apostol yn y paragraph hwn dawelu meddyliau cynhyrfus y Thessaloniaid trwy brofi iddynt nad oedd y Dydd a Dyfodiad yr Arglwydd yn agos; fod ymadawiad, a datguddio y dyn pechod, i ddyfod yn gyntaf. Y gwaith oedd i'w gyflawni cyn hyny oedd prawf yr Apostol nad oedd y dydd yn agos. Yr oedd pechod i redeg ei gwrs; a'r Eglwys i wella llawer, a gwneyd trefn ar y byd, cyn y delai yr Arglwydd atom. Yr oedd yr ysgrifenwyr ysbrydoledig yn mesur amser yn wastad wrth ddigwyddiadau mawrion. Copâu y mynyddoedd oeddynt ynrifo; ni buasent yn sylwi ar fân amrywiaethau y dyffrynoedd; ac y mae yn amheus a wyddent ddim am danynt. Yr oedd hyn yn nghadw gyda Duw. Mae Paul yn prophwydo yma. Mae yn gweled Wyddfäau y dyfodol yn ymgodi o'i flaen; ond am yr hyn a orweddai yn y dyffryn- oedd, yr oeddent yn nghadw gyda yr Hollwybodol ei hun. Mae yr Apostol yn sicr ei fod yn gweled, yn y dyfodol, rhyw ymad- awiad, rhyw ddirywiad ofnadwy yn cymeryd lle; ac y mae yn ymwy- bodol mai y diweddaf fydd, y bydd "dyfodiad yr Arglwydd " yn ei ddilyn yn uniongyrchol. Pa bryd y byddai hyn, ni wyddai; y cyfan wyddai oedd, fod yr Anwiredd yn dechreu lefeinio yn ei ddyddiau ef; ond pa adeg y byddai dirgelwch yr Anwiredd wedi tyfu, ac wedi ei ddat- guddio, ni wyddai. Yr oedd hyn i'w benderfynu gan beth arall, gan " yr hyn sydd yn attal." Mae hyn yn bwysau wrth odreu " dirgelwch yr anwiredd," fel nas gall wneyd a fyno. Ac y mae hyny wed'yn yn cael ei benderfynu gan drydydd gallu, " Yr hyn sydd yn attal, a ettyl,