Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<#|jtr|mtail|r gr ffspl Üabfcrtjjol. Ehif56.|íi' HYDREF, 1888. [Oyf. IV. gr- lsg0Í Sabírûfljüí % «j|irJbxest GAN PLENYDD. §UV1DDENGYS fod gan-y tadau, o anwyl goffadwriaeth, a roisant gychwyniad i'r Ysgol Sabbothol yn ein gwlad, ddau amcan arbenig i'w gwaith,—dwyn y genedl yn gyfarwydd â Gair Duw, ei ddarllen a'i ddeall, a'i ddysgu y naiil i'r llall. Symud yr " hen gyfrol" a orweddai yn gadwynedig wrth furiau oerion hen addoldai llwydaidd, a'i gosod o fewn i aneddau y werin bobl. Dyma symudiad cyntaf gweriniaeth yn Nghymru—tori cadwyn yr hcn Feibl, ac mae yr hen gyfrol byth wedi hyny yn tori cadwynau, yn gostwng bryniau, ac yn codi pantiau, gan brysur barotoi cyfnod gogoneddus cydraddoldeb dyn. Yr amcan arall i sefydliad yr Ysgol Sabbothol oedd puro arferion a dyrchafu moesoldeb y genedl, a diddadl, hi wnaeth waitla ardderchog. Brathodd â'i chleddyf daufiniog yr arferion ffol, a'r gweithredoedd pechadurus ac anfad, oeddynt megis yn rhan o fywyd y genedl, ac i bob ymddangosiad yn anwahanol, a chreodd ysgariad nad oes dim a'i hesbonia ond nerth dwyfol yn defnyddio cynlluniau daiarol. Pan ddechreuodd egwyddorion y Testament Newydd afael yn nghalon y genedl, ac i bobl yr Arglwydd dynu ger bron y byd linellau glân, pur, ac uniawn, mewn addysg ac ymarweddiad, crewyd chwyldroad yn arferion cymdeithas, gwasgarai niwl ofergoeledd, a chiliai arferion trythyll, masweddol, a gloddestawl i'w ffauau. Yn awr, nid anmhriodol yw cymeryd golwg syml ar y sefydliad y dydd hwn, ac ymofyn a ydyw yn cadw at ei amcanion cyntefig. Yn nglyn â'r blaenaf, peru ei heffeithiolrwydd i raddau mawr,—er y dis- gwyliasem fod gwybodaeth Ysgrythyrol yn fwy cyffredinol. Mae ei dylanwad a'i gwaith megis yr egwyddor o dyfiant yn natur,—cyfnod yr eginyn, yna y dywysen, ac heddyw mae dosbarthiadau Beiblaidd, arholiadau a safonau uchel, bechgyn a genethod gwledig a difanteision o ran addysg eìfenol, a'r goreuon o honynt yn gwisgo bathau aur ac arian; eraill a pharwydydd eu haneddau yn cael eu haddurno â thyst- ysgrifau addurnedig—dyma yr ŷd yn llawn yn y dywysen. Pan gymerwn drem ar ran arall ei gwaith, ymddengys pethau yn fwy pruddaidd. Wrth ganfod ansawdd moesoldeb ein cenedi heddyw,