Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cgtrgmaií^ gr jfsgol Sabfcríjml. Bhif 54. |rft. AWST, 1888. [Cyf. IV. ^rjmímgr m i'sgol jfoí. GAN D. G. W. 80LYGAF i'r gair " Arholwyr " gynwys pawb a ymgymerant â gwneyd unrhyw fath o Arholiad ar ddeiliaid yr Ysgol Sul. Gall na fydd yn cymeryd unrhyw ffurf gyhoeddusach na gwneyd arholiad am ychydig fynudau ar derfyn yr Ysgol; neu dichon y bydd yn arhohad cyhoeddus o flaen y cannoedd a dyrant i'r Gymanfa Ysgol- ion ; neu y mae yn bosibl y cymer y ffurf o arholiad ysgrifenedig mewn maes eang y buwyd am flwyddyn gyfan yn parotoi ar ei gyfer. Y mae y mathau hyn ar arholiad yn bur wahanol, ond eto rhaid i mi gyfyngu fy hun i'r hyn sydd gyffredin i raddau mwy neu lai i'r naill a'r llall o honynt. Yn gyntaf oll, dylai fod gan yr arholydd amcan. Gwelais rai weithiau mor ddilun yn arholi fel y gofynai hyawdledd mwy nag eiddo Demosthenes i'm hargyhoeddi fod ganddynt amcan o gwbl. Neu os beiddiwn dybio ynof fy hun fod ganddynt unrhyw amcan, byddai yn dyb o'r fath na charwn er dim ei hawgrymu yn nghlyw yr arholydd. Dylai yr amcan fod yn un cyfreithlon a theilwng, a'r arholydd yn gwbl hysbys o hono. Yn sicr, nid cyfleusdra i'r arholydd arddangos ei an- wybodaeth a'i anfedrusrwydd ei hun yclyw yr arholiad, er fod rhai yn gwneyd y defnydd hyn o hono. Nid amcan arholiad yn Ngair Duw ychwaith ydyw i'r arholydd wneyd arddangosiad honiadus o'i wybod- aeth, ei ddysg, a'i graffder ei hun. Nid amcan arholiad ychwaith ydyw tywyllu, na dyrysu, na llwfrhau y rhai a arholir. Ymddengys fod y rhai a daflant ofyniadau anorphen o flael Ysgol, yn coleddu syniad mai yn y dosbarth olaf yna yn rhywle y ceir dyben arholiadau yr Ysgol Sul. Da y gwna yr arholedig weithiau gau cegau a pharlysu dwylaw y beilchion ffol hyn unwaith am byth. Yr oedd arholydd o'r fath yma i holi Ysgol mewn cymanfa unwiith. Un hen frawd hirben yn yr Ysgol hono, oedd hysbys o nodwedd yr arholwr, a benderfynai i ateb yr ynfyd yn ol ei ynfydrwydd, os deuai gofyniadau ffol allan o'i enau. A hyny a ddaeth. Un o'i ofyniadau cyntaf oedd, " Pa faint y bu Adda yn Eden cyn pechu ?" Yr ysgolor hirben a'i hatebodd ar unwaith heb y petrusder lleiaf, "Deugain mlynedd." " Sut y gellwch chwi brofi