Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 53.1 *>1 GORPHENAF, 1888. [Gyp.IV. ^úauooma. GAN Y PABCH. D. ADAMS, B.A. braidd y mae angen dweyd fod y cwestiwn o Ddatguddiad o feddwl Duw, ei gymeriad, a'i berthynas â dynoliaeth yn eangach a phwysicach na'r cwestiwn o ysbrydoliaeth y Beibl yn ei natur, ei foddau (methods), neu ei gyfìawnedd. Bu dadleu brwd yny blynydd- oedd aethant heibio, parthed natur ysbrydoliaeth—pa un a oedd yn cynwys y geiriau yn ogystal a syniadau yr ysgrifenwyr—a oedd arolyg iaeth yr Ysbryd Glân yn cyraedd at gywirdeib eithyddol, yn ogystal a chywirdeb syniadol? Yn y blynyddoedd diweddaf hyn y mae y cwestiynau yna i raddau yn ymgilio i'r cysgod, os na bydd i Mr. Spurgeon drwy argraffiad newydd o Gaussen adnewyddu dyddordeb ynddynt, tra y roae y pwnc o gyfryngiad goruwchnaturiol Duw o gwbl yn natguddiad Ei feddwl a'i fwriadau grasol yn achubiaeth y byd, yn cael ei wthio i'n sylw gan ysgrifenwyr geisiant esbonio ymaith y goruwchnaturiol a'r dwyfol o Anian, o Hanes- iaeth y byd, ac o'r Ysgrythyrau. Ofer fyddai i ni geisio myned i ddadl â'r personau hyn ar y cwestiwn eangach yma. Un anhawsder mawr yn mhob dadl yw gallu cytuno ar wirioneddau cyffredin i'r ddwy blaid. Y mwyaf sylfaenol o bob gwirionedd yw, bodolaeth Duw fel person, nid yni yn unig, ond fel Bod personol; ac os na ellir cydgyfarfod yma, gwastraff fyddai ceisio myned i ddadleu parthed Datguddiad, gan mai person hunanymwybyddol yn unig fedr ymddatguddio. Ond yn ein hymdriniaeth niarfaesdalenauy "Cydymaith," nid oes berygl oddiwrth yr anhawsder y cyfeiriwyd ato, canys cydgyfarfyddwn yn y gred yn modolaeth Duw fel Bod, person hunanymwybyddol. Er y gallem o bosibl wahaniaethu ychydig yn ein hesboniad ar ddull gweithgarwch Ysbryd Duw yn nghynyrchiad yr Ysgrythyrau, eto i gyd, cyfarfyddwn yn ein crediniaeth ddiysgog yn y ffaith fod Duw wedi cyfryngu, er rhoddi mewn modd goruwchnaturiol, ddatguddiad o'i feddwl ac o'i ewyllys i ddynion. Y mae y syniad a goleddwn am gymeriad Duw, y fath fel ag i'n rhagdueddu i ddisgwyl datguddiad. Anturiwn gam yn mhellach. a dywedwn fod ein syniad am yr hyn yw Duw o ran ei hanfod, yn ein harwain i gredu fod yna fath o angenrheidrwydd yn ei natur ifcroddi