Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bhif 52.fr( MEHEFIN, 1888. [Oyf. IV. €%8anmìi %n$ivtíavfoth. GAN Y PARCH. D. WYNNE EVANS, LLANELLI. |AE llawer o anghysonâebau ymddangosiadol yn y Beibl y rhai a ddiflanant fel niwl y bore o fiaen ymchwiliad manwl a diragfarn; ac nid ydym yn meddwl mai rhyfyg ynom fyddai dyweyd mai un o'r cyfryw ydyw yr anghysondeb tybiedig rhwng 1 Bren. vi. a'r Act. xiii. 18—22. Yn y naill gosodir allan mai 480 o flynyddoedd oedd o ddyfodiad meibion Israel allan o'r Aipht hyd ddèchreuad adeiladu y deml gan Solomon, tra y gosodir yn y llall fod 573 o flynyddoedd. Mae llawer o feirniaid galluog wedi ceisio cyfrif mewn gwahanol ffyrdd am yr anghysondeb, ac y mae y rhai diweddaraf yn cydnabod ei fod yn aros heb ei egluro. Ellicott, ar ol nodi rhai pethau o eiddo Josephus ynglÿn â rhifedi y blynyddoedd fel y rhoddir hwynt gan Paul, a ddywed, "Y mae hyn yn gytuno fe welir, yn ddigonbl â'r testyn derbyniedig yn yr adran hon, ond yn gadael yr anghydfod à 1 Bren. vi. 1 yn anegluredig." Ceisir dyfod allan o'r anhawsder drwy ddyweyd fod Paul yn yr Actau dipyn yn ddifater gyda golwg ar rif, a'i fod yn adrodd yr hyn oedd draddodiad gan yr Iuddew- on, a hyny mewn rhifedi crwn (round numbers). Dyma lle y mae ein geJynion yn cael cyfleusdra i gabìu ein rhesymau eto, a gofyn onid Qedd Paul dan Ddwyfol ysbrydoliaeth pan yn gwneuthur y gosodiadau hyn; neu, os mai ar antur y gwnaed hwynt ganddo, yna y mae pob peth ar antur. Gresyn fod beirniaid uchelryw yn myntumio hyn a'r llall gan fyn'do'r tu arall heibio, a'n gadael i ymbalfalu mewn amheuon yn y ffos. Ond yr ydym yn barod i ddiolch i Samariad caredig, yr hwn wrth ymdaith gyda mater arall a'n cododd o'r pydew erchyll, allan o'r pridd tomlyd, ac a osododd ein traed ar graig, gan hwylio ein cerddediad. Mr. Eobert Anderson, Ll. D. (Barrister-at-laio), wrth ymdrin â phwnc arall sydd yn rhoddi i ni y ddamcaniaeth. Darllenir 1 Bren. vi. 1.—"Ac yn y bedwaredd-ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o'r Aipht, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel, yn y mis Ziff, hwnw yw yr ail mis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr Arglwydd." Nis gall dim fod yn fwy pendant na'r gosodiad yma, ond y mae yr Apostol Paul wrth gyfrif yn myned 93 o flynyddoedd dros ben. Yn Act. xiii. 18, dywed yr Apostol i'r genedl