Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehif 45.Jì,v TACHWEDD, 1887. [Cyf. III. GAN Y PAECH. W. PARJ HUWS, B.D. [Yn un o gyfarfodydd yr Undeb yn Nolgellau eleni, darllenwyd Papyr ar y pwnc uchod gan Prof. Rowlands, B.A., Aberhonddu. Gydag ychydig o ad-drefniad, ceir yma y sylwadau draddodwyd wrth gynyg penderfyniad ar y Papyr.— W. P. jHT.] ^AES astudiaeth y Gwyddonwr yw Natur, tra mai maes astud- iaeth yr Esboniwr yw y Beibl; ac nid yw gioyddoniaeth ac esboniadaeth ond y ffurf o'r mesuriad sydd ar y wybodaeth a gyrhaeddodd y naill a'r llaìl o'r Beibl a Natur. Felly, tra mai Duw yw awdwr Natur ac Ysgrythyr, dyn yw awdwr gwj'ddoniaeth ac esboniad- aeth. Gan hyny, pan fyddo gwyddoniaeth yn myned yn erbyn esbon- iadaeth, ni phrofa o gwbl fod yr annghydgordiad lleiaf 'rhwng Natur a Datguddiad, ond yn hytrach profa yn eglur y rhaid fod naill ai y gwyddonwr neu yr esboniwr yn annghywir; oblegid mae holl waith Duw fel ei Awdwr, yn hollol gydgordiol, heb y cysgod lleiaf o wrth- darawiad rhwng yr hyn a lefarodd yn yr Ysgrythyr â'r hyn a wnaeth mewn Natur. Ac i'r graddau yr iawn ddeallir meddwl Duw mewn Natur ac yn yr Ysgrythyr, y gellir yn briodol ddisgwyl i wyddoniaeth ac esboniadaeth gydgordio y naill â'r lla.ll. Felly, cyhyd ag y nod- weddir gwyddoniaeth neu esboniadaeth â'r cysgod lleiaf o annghywir- deb, ni bydd ond hollol naturiol i ddysgeidiaeth y gwyddonwr a'r esboniwr fod yn gwrthdaro. Ac nid oes dadl nad oes dosbarth i'w, gael a fynant fod y gwrth- darawiad yn annhraethol amlycach na'r cydgordiad, ac nad yw gwyddoniaeth ond "megis lleidr yn dyfod i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio." Edrychant ar y gwTyddonwrfelgelyn, tra yr ystyriantyr esboniwr yn oraclc anffaeledig. Ond nis gall y llygad-agored a thêg lai na gweled a chydnabod fod esboniadaeth Ysgrythyrol wedi manteisio yn helaeth ar wyddoniaeth, ac yn dod i fanteisio mwy-fwy yn barhaus. Ac wrthfeddwl Beth yw perthynas Gwyddoniaeth agEsboniadaeth wedi bod, gwelwn— 1. Fod Gwyddoniaeth wedi cywiro Esboniadaeth mewn rhai amgylch- iadau, megis (a) Am ffurf y ddaear, ei bod yn hirgrwn, ac nid yn flat, fel y tybid. (b) Am ysgogiad y ddaear. Tybid fod y ddaear yn sefydlog. Seilid y syniad ar eiriau megis " Y byd hefyd a sicrhawyd fel na syflo," Salm civ. 5; " Ond y ddaear a saif byth," Preg. i. 4. Mynid mai yr haul oedd yn troi a symud. Ac nid oedd hyn eto ond ffrwyth cam-esboniadaeth ar eiriau megis Salm xix. 4-6, lle y cyfeiria y bardd atyr hàul " fel gwr priod yn dyfod allan o'i ystafell: aç a ym-