Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

%írj|máf|j gr ffspl Sabkr%rl. Ehif 44. Jf 3 . HYDREF, 1887. [Cyf. III. § gwgrffc ar g P«*ẁ. ^RWEINIR ni, yn nechreu y bumed bennod o Mattbew, i bresenoldeb yr Arglwydd Iesu Grist yn y cymeriad o Bropbwyd neu Ddysg- awdwr. Dyma yr Un y cyfeiriwyd ato gan Moses pan y dywedodd, " Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o'th blith dy hun, o'th frodyr dy hun, Brophwyd megis finau; arno Ef y gwrandewch." Saif y Gwaredwr yn y cymeriad hwn, fel yn mhob cymeriad arall, yn gwbl ar ei ben ei hun. Nid oedd Moses a'r prophwydi ond cysgodion o hono; ac nid yw y dysgawdwyr crefyddol a ddaethant ar ei ol ond adlewyrchion o hono Ef. Iesu Grist yn unig lanwodd y drychfeddwl o athraw. Yr oedd y geiriau prophwyd, offeiriad, a brenin, yn eiriau heb eu llenwi nes y gwnaeth Ef ei ymddang- osiad. Nid ydynt felly mwyach; ac nid ydynt bellach yn deitlau y gall neb eu mabwysiadu ond yn rhanol, perthynasol, a chyfranogol. "Ac na'ch galwer yn athrawon: canys un yw eich athraw chwi, sef Crist." Mae y disgyblion yn llawer, ond un yw yr Athraw. Mae y bobl yn aml, ond un yw yr Offeiriad-. Mae y deiliaid yn Uuosog, eithr un yw y Brenin. Yn ei holl gymeriadau, saif y Gwaredwr yn hollol ar ei ben ei hun—yn gyfryw nas gellir ei gydmaru â neb. Yn y cymeriad o Ddysgawdwr neu Brophwyd yr ydym yn cwrdd âg Ef yma; ond y mae genym i gofio, mai nid yma y gwnaeth- ei ymddang- osiad cyntaf yn y cymeriad hwn. Yr oedd oddeutu blwyddyn wedi myned heibio er y bedyddiwyd Ef gan Ioan yn yr Iorddonen ; ac yn ystod y flwyddyn hono—blwyddyn gyntaf ei weinidogaeth gyhoeddas—ymddengys iddo gyf- yngu ei lafur yn benaf i Judea. Wedi cael ei wrthod yno gan flaenoriaid a chorff mawr y genedl, a chlywed am garchariad loan, y mae yn gadael Judea, ac yn gwynebu ar Galilea; ac yno y ceir iddo lafurio yn benaf am y 15 neu y 18 mis dilynol. Perthyn i'r cyfnod hwn, fel y gweíir, y mae y Bregefch ar y Mynydd, fel y'i gelwir; ac y mae yn amlwg iddi gael ei thraddodi yn gynar yn y cyfnod hwnw, a bod y traddodiad o honi yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes gweinidogaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Teimlwn yn wastad mai help mawr i ddeall unrhyw ran o'r Ysgrythyr yw gallu gwneyd allan yr amgylchiadau dan ba rai y llefarwyd neu yr ysgrif- enwyd y cyfryw. Beth am yr amgylchiadau dan ba rai y traddodwyd y Bregeth ar y Mynydd ? Oni fyddai yn dipyn o help i'w deall, pe gellid