Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehip 48.JÖÎ MEDI, 1887. [Oyf. III. GAN T FAECII. D. GRIFFITH, DOLGELLAU. EBTHYGL DEBFYNOL. MAE genym ychydig eiriau yn mhellach i'w traethu am waith a chyn^ llnniau Mr. Davies er budd yr Ysgolion Sabbothol; at yr hyn yr ychwanegir ychydig grybwyllion yn nghylch dyddiau olaf, a diwedd tangnefeddus, yr hen wron clodwiw. Yr oedd gwaith yn rhywbeth cysegredig iawn yn ngolwg Mr. Davies. 0! fel y codai ei aeliau mawrion, ac yr agorai ei lygaid treidd-lym, ac yr ymsir- iolai yn ei wedd, am ei fod yn ymsirioli yn ei ysbryd, pan y troai i arganmol gweithwyr, a mynegi am ogoniant gwaith. Dyn, neu ddynes yn proffesu crofydd, ac eto yn ddiwaith gyda chrefydd, oeddynt fodau rhyfedd iawn yn ei olwg ef. Yr oedd meddwl am bobl yn cymuno bob mis ar hyd y fiwyddyn, heb ddyfod i'r Ysgol Sul i gyfranu na derbyn addysg gymaint ag unwaith, yn ddigon i yru troell ei naturiaeth ef yn ffiam unrhyw íbment. Ni fynai ei enaid ddyfod i gyfrinach segur-ddyn, na segur-ddynes chwaith. Gwasgai yn ddi- frifol ar bawb ag oeddynt wedi cj'fìwyno eu hunain i'r Arglwydd, a dechreu gweithio yn ngwinllan yr Ysgol Sabbothol, i ddal ati, gan ddangos yr un diwyd- rwydd yn y gwasanaeth dan bob amgylchiadau, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd. Yr oedd yn weithiwr difefl ei hunan, ac felly ar dir da, diogel, i gondemnio musgrellni ysbrydol, Ue bynag y deuai. Yn ol barn ddilys Mr. Davies, yr oedd treulio llawer o amser i ddadleu ynghylch materion a syniadau anymarferol, yn* ynfydrwydd mawr, ie, yn bechod mawr hefyd. Dyna barai iddo y fath ddychryn, pan welai yr hen Grist- ion hynod hwnw, Dafydd Robert, o'r Braichbedw, Rhydymain, yn dyfod i'w gyfarfod mewn rhyw fan; sef, ei fod bob amser yn mynu codi dadl ynghylch pwnc nad oedd yn dwyn dim daioni i neb, a dyna oedd hwnw, 'y posiblrwydd i baganiaid fod yn gadwedig yn ol y goleuni oedd ganddynt, heb yr Efengyl.' Nid oedd modd cael gan Dafydd Robert siarad am ddim byd arall yn mron. Yr oedd yntau yn hen lanc fel Mr. Davies, ac o gylch yr un oed, ac yn meddu tipyn o olud, yr hwn a fwriadai ei ddefnyddio i bwrpas da ynglyn â gwaith yr Arglwydd rhywbryd ; ar y cyfrifon yna, yr oedd efe yn burion yn ngolwg Mr. Davies. Nid oedd ganddo ddim yn erbyu ei ddynsawd, ond yn erbyn ei opiniwn ef. Pe buasai Dafydd Robert ar ryw foreu hapus, yn penderfynu edrych allan am gynllun at effeithio rhy w wellhad ynglyn a'r Ysgol Sabbothol, ac yn dal at hwnw, buasai yr hynafgwr parchedig o Ddolgellau, yn ei groesawa