Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cjjfrjmtaiíjí jjr ffspl Safc%I. Bhif 41.1 ú 0 GOEPHENAF, 1887. [Cyf. III. ÿ a$knim a'r $gfbto(rJ. GAN TAFOLOG. LE dynion yn gyffredin yn sychedu am wybod y dyfodol; ac y mae gorawydd am hyn wedi eu gyru yn aml i diroedd annghyfreithlon, i geisio cael alian y dirgeledig diroedd a osododd y " Tad yn ei fedd- iant ei hun." Ond y mae astudio y dyfodol yn yr adlewyrchiad a deiíi y gorphenol arno, er ein cyfarwyddo i gyflawni dyledswyddau y presenoi, yn ganmoladwy. Er mai " tir tywyllwch fel y fagddu " ydyw y dyfodol i bob dyn wrth edrych yn mlaen iddo, mewn anghof o'r gorphenol, eto, yn ngoleuni profiad y dyddiau o'r blaen, y mae llewyrch y gorphenol megys yn teneuo y caddug; canys " y peth a fu a fydd, a'r peth a wnaed a wneir; ac nid oes dim newydd tan yr haul." Gellir cymhwyso y rheol hon at y testyn—y Plentyn a'r dyfodol. Mae y cwestiwn, Beth a fydd y plentyn hwn? yn un naturiol iawn i fynwes rhieni ac athrawon crefyddol ei sibrwd wrth ben yr ieuanc, yn yr ystyriaeth o bwys- igrwydd eu cyfriíbldeb hwy am yr hyn fydd yn y dyfodol. Gellir ateb y bydd ef yn rhywbeth; oblegyd y mae yn fôd anfarwol. Os caiff oes ar y ddaear i gyrhaedd oedran cyfrifoldeb, fe fydd yn rhywbeth i gymdeithas yn y byd, ac 'fe fydd dylanwad ei fywyd mewn rhyw fodd yn aros yn y byd, wedi iddo ef gael ei symud i fyd arall: a phe byddai farw yn ieuanc, ni phaid a bodoli—mae y plentyn eiddüaf yn meddu ínarn o fywyd a bery i gyneu wedi i'r haul ddiffodd. Hefyd, fe fydd yn rhywbeth nad ydyw yn bresenol; oblegyd y mae yn fôd cynyddol/ac yn greadur darostyngedig i lywodraeth amgylchiadau. Mae presenol y plentyn yn ddibwys i raddau i gymdeithas, ond yn y rhagolwg o'r dyfodol. Plant y presenol fydd tadau a mamau y dyfodol; a thra y maent'hwy yn bresenol yn faich i bryder a gofal rhieni, hwy fydd yn ei ddwyn yn y dyfodol. Gellir-edrych ar"y cwestiwn, Beth a fydd y plentyn hwn, mewn dau olyg- iad, sef, Beth a fydd ef i'r dyfodol, a bet'h a fydd eîyn y dyfodol, neu, Beth a fydd y dyfodol iddo yntau ? Mae yn anmhosibl dirnad am fodolaeth heb fod ìddi ef dylanwad ar ei chysylltiadau, yn gystal a'i bod yn derbyn dylanwad oddiwrthynt, megys nas gall y^gronyn lleiaf o fater fodoli heb fod iddo ei ddylanwad ar y greadigaeth faterol yn gyffredinol, yn ol ei bwysau, fel y mae iddi hithau ei dylanwad arno yntau. Felly, mae dyweyd y bydd y plentyn yn bodoli byth, yn cynwys fod pwysigrwydd bythol iddo ef, ac i eraill, yn y cyfeiriad a roddir i'w fywyd gan addysg tymor ieuenctyd. Mae y dyfodol fel pe byddai yn ei gyíarch ar ei anadliad cyntaf mewn bywyd, ac yn dyweyd,—