Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehif39.|v MAI, 1887. [Oyf. III. ^fogrpriaìmtt gmartóí i ^roíggfogr ax giírrafomt. GAN J. EVANS OWBN, LLANBEBIS. I. Fs0oZ -Rai a'r Cyflog. § 1. ^SGrOL rad yw yr Ysgol Sul. Ai mantais ai anfantais i'w heffeith- iolrwydd ydyw ei rhadlonrwydd ? Cyrnerir yn ganiataol ar hyn o bryd mai anfantais, a chyn gwneyd y meddwl i fyny ar y mater, awn ar hynt o ymchwiliad. O'i chymharu â phob sefydliad addysgol arall yn y tir—sefydliadau bydol—ag eithrio ysgolion gwaddoledig nas arolygir yn rheolaidd gan addysgwyr cydwybodol a medrus yn eu galwedigaeth, y mae ei gwaith, ond ei ystyried mewn goleuni cydmariaethol, yn dra anfoddhao]. Nid oes yr un ysgol arall yn troi allan gynifer o ysgolorion cloff a dirym. Mewn ysgolion bydol ceir llanciau a llancesi o'r deuddeg i'r un-ar-bj7mtheg oed yn feistriaid glew ar gynwysiad pedwar neu chwech o lyfrau; ânt drwy arholiadau celyd mewn hanesiaeth hen a diweddar, daearyddiaeth, gramadeg, rhifyddiaeth, a'r gweddill o elfenau ymarferol gwybodaeth, gyda hylaweidd-dra y cyfarwydd yn ei orchwyl. A geir graddau tebyg o wybodaeth yn hanesiaeth, daearyddiaeth a gramadeg un Llyfr yr Ysgol Sul ? Pa bryd y gwelwyd y llanc a'r ferch a allasai ddadansoddi adnod yn eu dosbarthiadau ar y Sul gyda'r rhwyddineb y dadansoddent baragraph o Hanesiaeth ein Hamserau gan MacCarthy yn Ysgol y Bwrdd dydd Llun ? Neu pa bryd y gwelwyd hwy mor hyddysg yn helyntion chwildroad Rehoboam ac anghydwelediad byr, ond ffyrnig, Pedr a Phaul yn nghynadledd Jerusalem, pryd y cyhuddodd yr olaf y blaenaf yn ei wyneb o fod yn wanyn llechwraidd,* neu rhyw enw arall, ag ydynt yn hanes chwildroad amaethyddol Wat Tyler, neu anghydfod y brenin Harri a'r Archesgob Thomas Becket ? Paham hyn ? Y mae Uawer paham, ac un o honynt ydyw, ysgol rad yw yr Ysgol Sul. § 2. Rhinwedd yw ei rhadlonrwydd. Peth nas gellir ei brynu mewn marchnad yw rhinwedd, a thybia rhai nas gellir ei drosglwyddo i arall drwy arddodiad dwylaw. Nid nwydd daear mo hono. Nwyddau pryn ydyw nwyddau bydol; po uchaf eu pris goreu eu natur, meinaf eu graen, a gloewaf eu gwedd. Y mae goreuon pob marchnad yn uchel eu pris, a'u pethau gwaelaf j'n isel a rhad. Ië, pethau gwaelaf dyn yn mhob man sy'n rhad; dyd ei ffansi uchelbrisiau ar ei oreuon. Yn ol yr egwyddor hon, ceir yr * Gal. ii. 12. Y mae amseriad yr iaith yn anorphenol, yr hyn a ddengys nad ymddeolodd Pedr yn ebrwydd ac ar unwaith ; fel pob gwan a chyfnewidiol yn ei gyflwr, ymlithro yn araf a bwriadol a wnaeth; ymbellhau ac ymddieithrio fwy-fwy, a phan welodd ei gyfle, cefnodd arnynt yn hollol. Yt oedd y fath ymddygiad gwasaidd yn ddigon i gyffroi gŵr o eofndra a didwylledd Paul a phan yn yr ystad hono o deimlad traethai eíe eiriau gwreichionllyd. Gwel Actau xiii. 10.