Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cjrôrgmaitjr gr Jfspl S Acríjwl. Rhif38.|- EBEILL, 1887. LCyf. III. gtrspfoMor i'r rjrai fmr|r. ÖAN PAPTRUS. y " rhai bach," pwy geir i fyned atynt ? Pwy a ymgysegra i wasan- aethu Duw a'r oes a ddaw, trwy ymwadu â'i esmwythyd a'i fwyniant ar bryd- nawnau Sabbathau, ac ymbarotoi at fod yn " ddysgawdwr i'r rhai baoh ?" Pwy a â at y plant ? yw y cwestiwn a fìina lawer o'n hysgolion bob chwarter. Cynygir Dafydd Morgan : y mae efe yn wr cryf, cydnerth, a'i lais fel cloch arian ; un rhagorol fydd efe i alw am drefn a chadw distawrwydd. Ond ys- gwyd pen yn chwerw a wna, am fod eisieu dysgu arno ef ei hun. Hwyrach yr ymfoddìona D. W. Hughes, y dilledydd, i fyned at ddosbarth o blant. Y mae yn lled chwimwth ei symudiadau, a medr ychydig Saesneg, pe digwyddai rhai o'r plant fethu a deall gair Cymraeg ; ond gwrthyd yntau; nid yw y Vestri gyda'r plant yn deilwng o'i urddas ef. Heblaw hyny, cyll y mwyn- had a'r adeiladaeth (?) o wrando a chymeryd rhan yn y dadleuon gerir yn mlaen yn ei hen ddosbarth. Evan Jones, yr ysgolfeistr, chwi yw y cym- hwysaf o bawb i gymeryd at y plant. Gwyddoch eu hangen, a pha fodd i'w gyflenwi. Buoch chwi yn diwyllio eich hun ar gyfer diwyllio meddwl a chelon rhai ieuainc. Oni chewch chwi ddylanwad arnynt, a mwynhad yn y gwaith, ni cha neb arall. Ond dylai un fel efe, sy'a llafurio gyda phlant drwy yr wythnos, gael y Sabbath i orphwys. Nis gall fod yn bresenol bob Sul; ac ni chymerai y plant na'u rhieni yr un manylwch a disgyblaeth yn yr Ysgol Sul ag a gymerant yn yr Ysgolion Dyddiol. A phe y gwnai fynu mapiau a darluniau, darllen-leni, a modulator i addysguy plant yn ol y cyn- lluniau goreu a diweddaraf, byddai rhyw ystranciau Ceidwadolyn deffro o'u diddymdra i daflu rhwystrau ar ei ffordd. Yn y modd hyn y mae y naill ar ol y llall yn ymesgusodi, nes o'r diwedd y gorí'odir rhywrai_ i fyned, rhag i'r plant fod heb neb, ac â y rhai hyny gan laesu gwefl, a thystio mai " dim ond am chwarter " y maent hwy yn gadael y dosbarth i fyned i'r fath benyd was- anaeth. Pa bryd y gwelir agwedd wahanol ar bethau? Pan deimlir yr angen am barotoi a dysgu dynion i fod yn athrawon, a pheri iddynt deimlo fod urddas a bri neillduol yn perthyn i'r swydd. Yna ceir rhywrai yn mhob eglwys yn barod i ymgymeryd â dosbarth athrawol, yn yr hwn yr ymdrafodir âg addysgiaeth yr ieuainc yn ei gwahanol weddau, a cheid pigion yr eglwya yn feibion ac yn ferched, i fod yn ffyddlon i ddosbarth o'r fath. Ond yn y cyfamser, dylid dal gerbron y cyhoedd yr angenrheidrwydd am athrawon gwell. Y mae iachawdwriaeth yr ysgol yn gorphwys ar hyn.