Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYDYMAITH YR YSGOL SABBOTHOL. Rhif. 25.] EBRILL, 1886. [Cyf. II. YR AELWYD A'R YSGOL SUL. GAX Y PAKCH. J. THOMAS, ZOAR, MERTHYR. YFEIRIA penawd ein hysgrif at ddau allu cryf. y rhai sydd eisoes wedi chwareu rhan fawr yn ffurfiad bywyd cymdeithas- ol ein cenedl a'n hoes. Dylanwadant liefyd y naill ar y llall, yn fwy o bosibl nag unrhy w ddau allu y gellid eu henwi; a'n hymofyniad yma yn ddiau ddylai fod, sut y gellir ychwanegu y dylanwad hwnw yn y dyfodol? SüT Y GALL YR AELWYD GYNORTHWYO YR YsGOL ì Drwy ofalu fod y plant yn ei mynychu hi. Gwirfoddoly w holl waith yr Ysgol, fel pob trefniaut arall o eiddo yr eglwys Gristionogol. îíid oes awdurdod gwladol i sicrhau presenoldeb ieuenctyd yr oes ynddi hi, fel sydd y tu cetn i'n hysgolion dyddiol, gan hyny. rhaid dybynu llawer ar ffÿddlondeb y rhieni i wneud hyn. Gwelir gwahauiaeth mawr rbwng aelwyd ag aelwyd yn hyn o berh. Oeir rhai rhieni y gellir dybynu arnynt y bydd eu plant yn yr ysgol, os na fydd rhywbeth eithriad- ol iawn yn eu rhwystro. Gwnant aberth niawr, os bydd eisiau, mewn trefn i hwylysu y ffordd. Pe ceid pawb rhieni felly. ni byddai ond ychydig drafferth i sicrhau ysgolion Sabbothol lluosog, ond, ysywaeth, gwelir eraill yn llac a musgrell ryfeddol. Yr ysgydwad lleiaf o du y plant fydd yn ddigon i fuddugoliaethu arnynt. Drwy ofalu am gysondeb a rheoleidd-dra yn yr Ysyol. Mae y diffyg o hyn yn achos cwyn aml, a phe yr eid i unrhyw Ýsgol Sul, a chymharu y rhif ar y Eegister â'r avemge attendance, ceid gweled fod digon o reswm am y cwyn. Nis gellir, yn ddiau,'sicrhau presenoldeb pawb bob amser, daw amgylchiadau cyfreithlawn weithiau i rwystro, ond diau y gwnai ychydig yn ychwaneg o ffyddlondeb ac ymroad o du y rhieni y diffyg i fyny i radd- au dymunol. Dylid ymdrechu at hyn oblegid nid oes dim yn sicrach o ladd dyddordeb y plant yn yr ysgol a'u gwersi na diffyg cysonedd. Wedi esgeuluso un Sul, mae yn anhawddach cydio yn y gwaith y Sul dylynol. Drwy gymeryd interest yn ngwersi y plmit cyn ac ar ol yr ysgol. Bychan o beth fyddai i'r rhieni ì oi ychydig- oriau yn nghwrs yr wythnos i gynorth- wyo y plant i feistroli y gwersi fydd ganddynt ar gyfer y Sabboth, neu os na allant gynorthwyo i ddefnyddio ìhyw foddiou i ddangos eu bod yn gwerthfawrogi y gwaith a wneir ganddynt. Ac ar ol i'r plant gyrhaedd adref o'r ysgol, nid gormod fyddai i'r rhieni holi ychydig gwestiynau yn nghylch y prydnawn a'i lafur. Dylai hyny roddi pleser mawr iddynt hwy eu hnnain, a sicr yw, yr ychwanegai yn ddirfawr ddyddordeb y plant yn eu gwaith. Dylai syniad y plant am bwysigrwydd gwaith yr ysgol gael ei eangu hyd byth y byddo yn bosibl. Clywais ysgol-feistr yn dweyd yn ddi-