Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYDYMAITH YR YSGÖL SABBOTHOL. Ehif. 24.] MAWRTH, 1886. [Cyp. II. ADDYSG LYFR CYMRU. GAN Y PARCH. R. S. WILLIAMS, BBTHESDA. 33RTH osod arbenigrwydd ar un llyfr fel addysgydd y genedl Gymreig, nid oes angen rhesymau cywrain i argyhoeddi neb mai y Beibl ydyw hwnw. Breintiwyd y wlad er yn fore iawn a llawer o lyfrau eraill, ond yr oeddynt oll, ac y maent eto gan fwyaf, yn dal cysylltiad agos â'r Beibl. Ceir yn yr iaith Gymraeg erbyn hyn lyfrau yn dysgu elfenau rhai o'r celfau a'r gwyddorau, fel na raid i neb fod yn an- wybodus yn y cyfryw wybodaethau, ond bychan ydynt mewn nifer o'u cymharu a'r rhai sydd yn egluro y Beibl. Prawf hyn na ddadgysylltwyd y bydol a'r crefyddol hyd yma yn nghyf- ryngau addysg, gan nad sut y bu yn nghylch yr effeithiau ymarferol gyn- yrchwyd ganddynt. Ac yn yr ystyr hono cydnabyddwn yn rhwydd fod arwyddion amlwg yn mhob cẁr o'r Dywysogaeth fod crefyddolder yn un o nodweddion y genedl. Mae amledd ei chapelau heirdd a'r ymdrech i'w diddyledu, yn nghyda'r cynulleidfaoedd lluosog sydd yn eu mynychu yn arwydd ei bod yn dra chrefyddol, ond nid ydynt bob auiser yn brawf o'i duwioJdeb a'i Christion- ogaeth. Credwn eu bod yn brofion cedyrn i'r gwrthwyneb mewn lluaws mawr o amgylchiadau. Ónd gadawn y syniadau yna i'r darllenydd ymhel- aethu arnynt yn ei fyfyrdodau, a thrown ein sylw at gwestiwn neu ddau eraiJl. Beth yw dylanwad y Beibl heddyw ar fywyd cyffredin1? A. ydyw yn ein gwneud yn sobr, geirwir, gonest, a cbyfiawn ] Mae yn wir mai nid i'r Beibl yn unig yr ydym yn ddyledus am ddatguddiad o'r cyfryw rinweddau, dysgir hwy gan bersonau heb wybod dim erioed am dano; a thrwy sylwi ar hanfodion bywyd cymdeithasol nis gellir peidio gweled a theimlo eu gwerth, na bod yn ddall i'r canlyniadau arswydus mae y diffyg o honynt yn arwain iddynt. Eto gan fod y Beibl, llyfr ag y mae Duw tu ol iddo, ac yn llefaru ynddo a thrwyddo wrth ddynion, yn gosod pwysigrwydd neillduol arnynt, mae yn rhesymol disgwyl iddynt gydio yn ddwfn yn nghalon y sawl fyddo yn ei gredu a'i barchu, a chario dylanwad ar eu cymeriad, a dyfod i'r golwg yn ddiamwys yn holl gysylltiadau bywyd fel byddo yr amgylchiadau yn gaJw am danynt. Heb hyn pa werth i ddynion ydyw y Beibl ì Ond beth mae ffeithiau yn nglyn a'r mater hwn yn brofi 1 Traethodd Mr. Horatio Lloyd, barnwr un o lysoedd sirol Gogledd Cymru, ei farn mewn modd digamsyniol ar anudoniaeth ein cenedl yn ddiweddar. Fel hyn y llefara: " Nid oes odid i achos yn y llys hwn nad oes anudon- iaeth pwyllog yn cael ei gyfiawni yn nglyn ag ef. Nid wyf yn cyfarfod a