Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYDYMAITH YR YSfiOL SABBOTHOL Rhif. 23.] CHWEFROR, 1886. [Cyp. II. ARWYDDION SYMUD. A genyin weled ychydig o arwyddion deffro, codi, a symud yn ngwersyll ein Hysgolion Sabbothol y dyddiau hyn. Yn y Rhifyn hwn, y mae genym y pleser o gyhoeddi hanes arholiad a chyfarfod blynyddol cyntaf Undeb Ysgolion yn Nghyfundeb Gorllewinol Morganwg. Cawsom yr hyfryd- wch o alw sylw at arholiad llewyrchus a llwyddianus a gymerodd le yn ddiweddar yn nglyn ag Ysgolion Cyfundeb Gogleddol, Morganwg. Deallwn hefyd fod yna weithio a pharotoi egniol at waith yn Nghyfundeb Lleyn ac Eifionydd; ac y mae yn llawenydd genym weled fod Undeb Dosparth Bethel yn Arfon yn cerdded gyda nerth a hoenusrwydd cynyddol. Nis galiwn lai nag edrych ar hyn oll ond fel arwyddion symud; ac yn sicr, y mae yn rhaid i'r ruwyaf hwyrfrydig yn ein plith gydnabod ei bod hi weithian yn bryd i ni ddefiroi o gysgu—codi a symud i gyfarfod y dydd sydd yn gwawrio arnom. Un o'r elfenau ainlycaf a mwyaf nodedig yn nglyn â'r symudiad tan sylw yw yr arholiad. Gwyr ein darllenwyr yn dda, ein bod o'r cychwyn wedi bod yn dadleu dros fabwysiadu arholiadau blynyddol yn nglyn a'n Hysgolion Sabbothol, a'n hundebau Ysgolion ; ac y mae yn dda genym weled fod y tân arholiadol eisoes wedi dechreu cyneu yn ein plith, ac os nad yw wedi ymledu i'r graddau y byddai yn ddymunol genym—credwn mai ymledu a wna nes meddianu yr Ysgolion i gyd bob yn dipyn. Diameu genym fod yna ddosparth mawr yn ein mysg sydd yn Uawn mor awyddus a ninau dros wneud rhywbeth yn y cyfeiriad hwn pe gwelent eu ffordd yn glir, a phe gellid taro ar y cynllun hwnw fyddai yn debyg o fod yn effeithiol i gyraedd yr amcan mewn golwg. Yr anhawsder mawr yw ein cael ni at ein gilydd, a chael yr Ysgolion i gymeryd i fyny a rhyw gynllun a sicrhao undeb a chydweithrediad. Cydnabyddwn fod yma anhawsder, ac anhawsder mawr, ond y mae genym i gofio nad yw anhawsderau yn ddim amgen na phethau i ddyfod drostynt. Ös yw yr anhawsder hwn wedi bod yn ormod i'w symud mewn amser aeth heibio, ai tybed fod yn rhaid iddo gael sefyll ar ffordd gwelliantau y presenol a'r dyfodol 1 Nid ydym wedi anghofio y cynyg rhagorol a wnaed ychydig flynyddoedd yn ol er dwyn ein Hysgolion Sabbothol yn nes at eu gilydd, ac i fwy o gyd-weithrediad ; ac y mae y ddwy gynhadledd a gynhaliwyd yn nglyn a'r cynyg hwnw—y naill yn Abertawè a'r llall yn Rhyl—yn cael eu cofio yn dda gan lawer yn ein plith. Ond er i'r symudiad hwnw brofi yn fethiant rhanol, credwn nad ofer i gyd fu yr ymgais. Mae cynyg at welliant yn gam pwysig er ei sicrhau. Ein tuedd a'n perygl yn aml yw cynyg at ormod-—gormod ar y pryd a feddyliwn. Syniad ardderchog fyddai cael Ysgolion Sabbothol ein henwad yn Nghymru i syrthio i mewn a chynllun syml o arholiadau, &c, ac nid ydym yn credu mewn amcanu at ddim fyddo'n îs na hyn \ ond nis gallwn ddisgwyl, ac o'r