Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYDYMAITH YR YSGOL SABBOTHOL Rhip 22.] IONAWR, 1886. [Ctf. II. »*w m\ ^To° S ÌNÎ5^ ) UNDEB YSGOLION. N o arwyddion boddhaus deffroad gyda'r Ysgol Sabbothol ydyw fod ei hanghenion cyffredinol yn cael mwy o sylw. Nid yn unig ceir diwygiadau lleol, ond sefydlir Undebau Ysgolion newyddion ac adgyweirir hen rai; sonir am Undebau Enwadoi, ac y mae hyd yn nod Undeb Ysgolion Anenwadol i Gymru wedi ei grybwyll. Gwelir fod gofal am y gwaith yn ei gyfanrwydd ar feddwl rhywrai. Nid peth bychan na dibwys chwaith ydyw fod yr holl faes dan ymgeledd, yn ogystal a'i amrywiol ranau, ond y mae hyn yn un o delerau hanfodol llwyddiant yn ei ystyr uwchaf. Y mae uno i weithio allan amcan- ion mawrion a daionus yn ffynu fwy-fwy. Yr ydym yn priodoli sefydliad yr Undebau daionus sydd mor lluosog yn ein hoes i ddylanwad yspryd (-ristionogaeth. Mae undeb yn egwyddor benaf ynddi hi. 0 dan gysgod oesoedd tywyllion a barbaraidd ceid cymdeithas yn mhob cylch yn fil o ddarnau, ar darnau hyny yn gwrthweithio eu gilydd yn egnioì. Ond o dan belydron Cristionogaeth gwelir y darnau heddyw yn symud at eu gilydd, ac Undeb yw arwyddair y dydd. Deallir yn awr yn well nag erioed sut i weithio trwy Undeb. Mae ein hoes yn symud at ddau nod pwysig yn bur eglur, sef, mwy o ryddid a mwy o undeb; ac yn mhob cylch lle y cant deg- wch, y mae y ddwy egwyddor uchod yn cofleidio eu gilydd. Mae undeb teg yn dyogelu rhag dau eithafion—gorthrwm y cryf a gorlethiad y gwan— y naill yn ogystal a'r llall, ac felly yn feithrinol i ryddid a llwyddiant. Trwyddo daw gallu y mil i un, a nerth y lluaws i'r gwan: ac y mae gallu unedig y llaweroedd, fel rheol, yn ddigon i orchfygu pob rhwystr a chyflawni pob mawr waith, pa un bynag a fyddont oddifewn i gylch yr undeb ei hunan ynte oddiallan iddo. Gwanhau y w nerth pechod—tino y w gogoniant crefydd: yn ei unigrwydd mae gwendid a pherygl dyn: nid oes neb ond Duw all fforddio i weithio ei hunan. Am yr un rheswm y mae cymdeithasau bychain gweiniaid o ddyn- ion o dan anfantais heb undeb. " Fel y byddont oll yn im," ebai yr Athraw. Pa eglwys neu Ysgol Sul a all fforddio i ddybynu yn gwbl ar ei hadnoddau ei hunan heb ddyoddef anfantais, neu fod yn euog o atal ei chynorthwyon. Os yn gryfach, cyfoethocach, dysgedicach, a doethach nag eraill, dylai gyf- ranu; ac os yn wanach, tlotach, a mwy anwybodusnag eraill, dylai dderbyn. a dyma gylch gwasanaeth undeb. Tra heb gyfranu, ni bydd y doeth a'r cyfoethog yn hir heb ddirywio, a rhaid i'r gwan fyned yn wanach heb dder- byn. Dyma un rheswm, yn ddiau, paham y mae Cristionogaeth mor feithrinol i undeb, sef, am ei bod yn gyfrwng effeithiol gwasgariad a chyd- gyfranogiad ei bendithion goreu. Y mae gwrthod cynorthwyo pan ellid, a gwrthod derbyn pan ddylid, yn groes i ysbryd Cristionogaeth, ac yn ddir- ywiol yn eu dylanwad, y naill fel y llall. Y mae swn cerydd miniog yn ngeiriau y Beibl i'r rhai sydd " eu hunain yn mesur eu hunain wrthynt eu