Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§gâ%n\út}\ ÿr §ŷaol §abbotì\al Rhif 21.] RHAGFYR, 1885. [Cyp. I. PA FODD Y COLLASOM NI HWYNT? GAN R. THOMAS, GLANDWR. Mewn araeth gref, gyfoethog, hyawdl, a thra amserol o eiddo Dr. R. W Dale yn un o gyfarfodydd Hydrefol yr Undeb Cynulleidfaol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Hanley, yr ydym yn dyfod ar draws y cwestiwn uchod mewn cysylltiadau sydd yn dra theilwng o syJw ac ystyriaeth yr Ysgolion Sabbothol, yn gystal a'r eglwysi; ac ar y cyírif hwnw, nid ydym yn petruso dodi iddo y Ue amlycaf a feddwn yn y Cydymaith am y mis hwn. Fel y gwyr amry w o'n darllenwyr yn dda, pwnc sydd wedi, ac yn parhau i gymeryd i fyny gryn lawer o le yn uchel-wyliau y gwahanol enwadau crefyddol yn Lloegr yn y blynyddau diweddaf hyn ydy w:—Sut y mae dyfod at y bóbl, a chael gafael yn lluaws mawr y dosbarth gweithiol—eu codi i fynvchu modd- ion gras, ac i wrando yr efengyl, &c. Cwestiwn anrhaethol bwysig yn ddiddadl, ac y mae yn amlwg na fynai y Dr. er dim a dweyd gair fuasai a thuedd ynddo i leihau y zel ac i oeri y brwdfrydedd canmoladwy yn nglyn ag ef; ond meddylia y dylai cwestiwn arall gael ei ofyn yn gyntaf, sef, Pa fodd y collasom ni hwynt ? " Beth," ebai rhywun, " a fuont hwy ar gael ac mewn Uaw genym ry wdro T Do, meddai y Dr. Yn ystod y deng-mlynedd- ar-hugain, a'r dengain mlynedd Jiweddaf, tybia ef fod tair rhan o bedair o blant dosbarth gweithiol ein gwlad wedi bod dan addysg yn yr Ysgol Sab- bothol; ac na chafodd yr Eglwys erioed gyíie mor ysplenydd i wneyd yr holl genedl yn Gristionogol ag yn ystod y cyfnod yna. " Bu tair rhan o bedair o'r bobl" meddai, " yn ein dwylaw am dair, pedair, pump, a chwe' mlynedd cyn iddynt ffurfio arferion anghrefyddol, ac yn ystod y tymor hwnw ar fywyd dyn pan y mae y galon a'r gydwybod yn fwyaf tyner i apeliadau moesol ac ysprydol." Cafwyd hwynt hefyd, fel y dywed yn mhellach, nid yn dorfeydd, ond yn ddosbarthiadau o wyth, deg, a deuddeg, yr hyn a roddai well mantais i ddylanwadu arnynt, a'u tywys yn fíyrdd cyfiawnder. Gadewch i ni weled beth a ddaeth o honynt. " Mae canlyn- iadau uniongyrchol y gwaith hwn " meddai, " ar waban oddiwrth y canlyn- iadau anuniongyrchol, wedi bod mor fawr fel y byddai yn anniolchgarwch cy- wilyddus ynom i beidio cydnabod fod Duw wedi llwyddo ein gwaith yn rhyf- eddol." Tybiaam y rhan fwyaf o'r eglwysi, fod haner eu haelodau—ac mewn lluaws o'r eglwysi, fod dwy ran o dair o'r aelodau wedi eu cael o'r Ysgol Sul; ond y mae yna lawer iawn wedi myned ar goll a fu unwaith yn yr Ysgolion. * Onid yw hyn yn wirionedd galarus am gannoedd yn Nghymru 1 Pa le, a pha beth sydd wedi dyfod o'r lluaws plant a ddysgwyd yn Ysgolion Sabboth- ol ein gwlad yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf % Mae yna ga"nnoedd— oes, a miloedd, trwy dragaredd, o honynt ar gael—yn fynychwyr cyson o