Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"gdgnjäitli ÿt ÿ§Qol ^äbbatffûl Rhif 20.] TACHWEDD, 1885. [Cyf. I. DÁRLLEN. GAN \ PARCH. E. JAMES, NEFYN. Bu adeg pan nad oedd ond ychydig mewn gwlad yn gallu darllen; ond trwy ddylanwad yr Ysgol Sabbothol, a chyfryngau eraill, y niae pethau erbyn hyn yn dra gwahanol. Peth cyffredin yn awr yw clywed plant o saith i ddeg oed yn darllen yn rhwydd, a bod rhai ychydig yn hŷn na hyny yn yn teimlo fod darllen yn hudoliaeth iddynt. Haws, er hyny, ydyw cael darllenwr mawr na chael un da. Y mae mwy yn darllen yn Hithrig nag a wna hyny yn drwyadl. Gellir darllen llawer heb gyrhaedd ond ychydig o'r buddiant priodol. Y mae darlleniad cyhoeddus o'r Ysgrythyrau yn rhan bwysig o waith ein cyfarfodydd crefyddol. Teilynga fwy o le ac o sylw nag a roddir iddo yn ein plith. Dylai gael ei chyflawni yn llawer effeithiolacb. Nid yw y brys a'r diofalwch sydd mor aml ynglyn a'r rhan hon o'r gwaith yn deilwng o addysg gyffredin y wlad, heb son am urddas y gwasanaeth crefyddol a phwysigrwydd y gwirionedd dwyfol. Daw adeg, yn fuan bellach, pan na oddefir i un yinffrostio yn ei ddysgeidiaech, os na all ddarllen yn ddiwall a chelíydd penod o Feibl yn ei iaith ei hun, yn yr hon y ganed ef. Y mae darlleniad da cystal ag esboniad, ydyw, ac yn anrhaetho] ragorach na llawer o'r hyn a elwir felly. Bu darlleniad cyhoeddus effeithiol yn foddion i godi cynulleidfaoedd mawrion i hwyliau, a theimlaf yn hyderus y daw adeg felly eto. Hyd nes y delo hyny, ni theimla ein cynulliadau crefyddol y gwerth a'r awduidod a berthyna i Air yr Arglwydd. Ar law yr Ysgol Sabbothol mewn modd arbenig y mae dwyn hyn oddiamgylch. Ond at ddarlleniad dirgelaidd a chyffredin y bwriadais alw sylw yn awr. Rhaid addef nad pob un gallnog i ddarllen sydd yn meddu chwaeth at hyny. Pen- yd anymunol ar ambell un a fyddai ei orfodi i ddarllen dros ysbaid tair neu bedair awr, yn enwedig os y byddai yr hyn a ddarllenai yn galw am ymar- feriad meddyliol egniol. Adwaenwn un a dreuliodd oriau meithion a'i lygaid yn agored a'i wefus- au yn ysgwyd uwch ben Uyfrau da, heb roi fawr iawn o arwyddion ei fod yn ddim elwach o hyny. Yr ydoedd hwnw yn debyg i wydr a welais gan rai yn mesur amser—y tywod yn rhedeg i fewn ac allan o hono heb adael dim o'i ôl. Y mae ambell un, er iddo ddarllen llyfr da, ni all roddi i arall ond megis trochion cymysglyd o'i gynhwysiad. Tebyg ydyw y darllenwr hwnw i'r spwng, yr hwn a lygra ryw gymaint ar bob peth a gymer i fewn. Nid oes gan rai fias i son am ddim ond diifygion yr hyn a ddarllenasant. Y maent yn gyffelyb i hidlen y Uaeth-wraig—heb ddal dim ond y brychau. Mewn trefn i ddarllen i'r amcanion goreu, dylid bod fel mwnwr medrus mewn mwnglawdd aur—gadael i'r cwbl fyned ymaith ond y gronynau sydd o werth. Dengys hyn y dylai y darllenydd Beiblaidd ddal y cwbl, canys y mae cyfraith genau yr Arglwydd yn well na miloedd o aur ac aria n.