Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"ÿdÿnfmfft ÿt Üfyûl ^äbhatJfûL Rhif 19.] HYDREF, 1885. [Cyf. I. YR ÁEOLYGWR. GÀN Y PARCH. D. ADAMS, B. A., HAWEN. Nid yw uni'hyw gorph yn gyflawn heb ben arno. Yr ydym ni yn y wlad hon yn credu, hyd yn hyn, fod ar y corph gwladwriaethol angen penadur (sovereign) yn frenin neu frenhines. Ac y niae hyd yn nod yr Amerig Werinol yn teimlo fod yn rhaid iddi wrth Arlywydd etholedig i fod yn ben arni. Yn senedd ein gwlad rhaid cael rhywun yn Brif Weinidog er fod yno lawer o weinidogion yn aelodau o'r Weinyddiaeth. Rhaid i bob pwyllgor gael ei gadeirydd etholedig. Ac yn ein Colegau—ac yn neillduol Colegau ein Prif-ysgolion, er fod ynddynt luaws o athrawon galluog, teimlir nas gellir cario y sefydliadau yn mlaen yn effeithiol heb Brif-athraw. Yn yr oll, yn mron, o'r engreifftiau uchod gofelir am y personau cym- hwysaf i lywyddu y gwahanol gymdeithasau a sefydliadau. Ond yn hyn eto, fel gyda llawer mater arall, y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni. Er, y mae yn wir, y teimla Eglwys Loegr fcd angen Esgob i arolygu y Clerigwyr, ac er y dewisa Eglwysi Annibynol weinidog i'w gwasanaethu yn yr Arglwydd, eto i gyd y mae perygl i syn- iadau eithafol o Werinol beri i ni ddrwgdybied pob swyddog llywyddol, ac anwybyddu y ffaith fod doethineb, synwyr, craffder, a gras mewn graddau uwchraddol o angenrheidrwydd yn meddu ar allu llywodraethol, ac fod Duw wedi golygu i'r personau fo yn eu meddu fod yn frenhinoedd i Jywod- raethu, yn fugeiliaid i arwain. ac yn esgobion i arolygu, nid er eu mwyn eu hunain, ond er eu mantais neillduol ac uniongyrchol i'r rhai a lywodraethir ac a arweinir. Y mae yr un perygl oddiwrth syniad unochrog am gydraddoldeb yn ymos- od arnom yn ein Hysgolion Sabbothol. Yr ydym yn credu fod pob swydd yn yr eglwys ac yn yr Ysgol Sul yn agored i bob aelodfedr ddangos eifod yn meddu ar gymhwysder i'wllanw. " Yr arfau i'r neb a-fedr eu defnyddio," ddylai fod ein harwyddair parhaus. Ond yn y wladwriaeth, yn yr Eglwys Gristionogol, acyn yr Ysgol Sul dangosir mwy o awydd am feddianu hawl- freintiau, nag am gymhwysderau i gyfiawni y dyledswyddau anwahanol gys- ylltiedig â'r rhagorfreintiau hyny. Canfyddir hyn yn amlwg yn y Socialist yn ogystal ac yn yr Absohite Monarch. Gorchwyl mawr ac anhawdd gwladwein- wyr y dyfodol mewn gwladwriaeth a ffurf-lywodraeth Eglwysig fydd llwybro yn y canol rhwng y ddau eithafion uchod. Cyferfydd hyrwyddwyr yr Ysgol Sul â'r un anhawsder hefyd mae yn ddiameu. Hwyrach fod yna ormod o'r Äbsolute Monarch wedi bod mewn amryw o'r Arolygwyr yn y blynyddoedd a aethant heibio. Mynent eu ffyrdd eu hunain yn ormodol; ni ymgyng- horent â'r athrawon ond yn anfynych, ac ymladdent yn erbyn pob cais at ddwyn i mewn unrhyw ddiwygiad. Gwelsom rai Arolygwyr o'r dosbarth