Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^dÿttjäitfi ÿt §§Qûl §äbhút1\ol Rhif 16.] GORPHENAF, 1885. [Cyf. I. Y CYFIEITHIAD DIWYGIEDIG O'R HOLL FEIBL. GAN O. JOKES, PWLLHELI. Y mae ymddangosiad y Cyfieithiad Diwygiedig o'r holl Feibl, yr hwn sydd newydd ei gwblhau, yn ddiau yn un o ddigwyddiadau pwysicaf ein hoes. Cyiner ei le hefyd yn hynod o naturiol mewn oes sydd mor llawn o gyfnew- idiadau a newydd-deb ar eiddom ni. Oes ydyw yn yr hon y dymchwelir hen opiniynau ac y profir cyfundrefnau o bob math: mae gwladwriaethau a gorseddau yn barhaus yn y glorian, ac ohheinir hen feiblau a chrefyddau cenhedloedd cyntaf amser. Mae trwst symudiadau mawrion o'n deutu i bob cyfeiriad. Daw cyfnewidiadau oddiamgylch yn awr gyda mwy o gyâymdra a sydynrwydd, a nodweddir hwy gan f wy o eangder a threidd- garwch. Yn yr olwg yma ar bob peth yn symud, ofnir gan lawer fod gogwydd yr oes at chwyldroadau dinystriol; a diau genym fod ofn os nad dychryn wedi myned dros filoedd o bobl dda wrth weled llyfr eu bywyd a'u credo yn myned o dan y cyfnewidiad geiriol a wnaed arno yn ddiweddar. Newid geiriau y Beibl! Mae miloedd o eiriau hwn yn anileadwy gerfiedig ar eu calonau: mae geiriau ynddo y bu eu bywyd yn grogedig wrthynt: bu gair o hwn yn "ìlusern" iddynt ganwaith mewn nos ddu dywell, ac yn "felus win " mewn cyfyngderau mawrion ac ingoedd angeu—geiriau Duw ydynt, a geiriau yr Iesu ydynt—pwy faidd eu newid % Rhaid i ni gyfaddef fod ynom ddirfawr barch i'r syniadau uchod a'u cyífelyb. Mae ganddynt ddylanwad dwfn ar ein calon ninau, ac y mae miloedd o eìriau yn yr Hen Lyfr nad oes newid i fod arnynt byth. Dichon er hyny y byddai yn fantais fawr lleoli y rhai hyny yn wahanol. Mae symud y llusern yn aml yn fantais ddirfawr i'w goleuni gael ei wasgar. Nac anghofier hefyd fod miloedd o eiriau eraill y dylid eu newid am eu rhagorach. Nid yw trwsio ochrau y ffynon, serch newid ambell i faen o'r adeiladwaith am ei well, yn niweid- io dim ar y dwfr pur sydd ynddi; ac mae gwella y rhodfeydd ati a'r fynedfa iddi yn hanfodol i'r ieuangc a'r hen, heb son am eraill. Mae trwsio a glan- hau y ffenestri yn gollwng ffrwd o oleuni i'r ystafelloedd, heb newid dim ar y goleuni ei hun. Mae symud brycheuyn oddiar wydr yr yspieinddrych yn dwyn bydoedd newyddion i'r golwg. Gwel y myfyrgar ystyr y ffigyrau hyn o'u cymwyso at lafur gwerthfawr y Cyfieithwyr diweddar. Gall newid brawddeg, neu air, neu hyd yn nod sillgoll yn adnod Duw, os yn fwy cyson felly a meddwl yr Yspryd, fod yn foddion i ddwyn bydoedd newyddion gwirionedd i'r golwg. Pan ystyriom y manteision dirfawr sydd wedi amlhau o fewn y blynydd- oedd diweddaf tuag at ddwyn allan gyfieithiad gwir ddiwygiedig o Air Duw, y syndod ydyw fod y Cyfieithiad awdurdodedig, fel y gelwir ef, wedi cael aros am gyhyd a 274 o flynyddoedd heb gydymgeisydd cyffelyb, ac o uwch awdurdod nag ef, dd'od i'r maes. Mae gwybodaeth o'r hen ieithoedd cyntefig