Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^ÿdÿnjäiíff ÿt Hlfyol ^äbbûtfjûL Rhif 9.] RHAGFYR, 1884. [Oyf. I. GWERTH ADDYSG GEEFYDDOL. GAN Y PAECH. B. WILLIAMS, CANAAN. Un o brif neillduolion y cyfnod hwn ar hanes ein gwlad a'n cenedl yw y gwerth mawr mae dynion yn roddi ar addysg. Codir ysgoldai cyfleus yn mhob cwmwd a phentref, dewisir dynion gwybodus a medrus i ddysgu y plant, cynygia y Uywodraeth wobrau uchel i'r dysgyblion mwyaf flydd- lon a llafurus, ac mae pob tad a mam yn barod i wneyd aberthau er mwyn i'w plant gael addysg dda. Profa hyn fod y genedl o'r diwedd, wedi hir gysgadrwydd a difaterwch, wedi ymddeffro trwyddi i weled gwerth addysg. Pa werth sydd mewn addysg 1 Pahain na foddlonir gadael i'r plant aros mewn tywyllwch ac anwybodaeth 1 Am fod y rhieni wedi derbyn argy- hoeddiad dwfn fod addysg elfenol dda yn hanfodol i gymhwyso eu plant i gyflawni dyledswyddau bywyd yn anrírydeddus, a'u gosod yn gydradd a phlant eraill mewn bri a manteision y bywyd hwn. Y teimlad hwn yw un o'r galluoedd mawr sydd yn cynhyrfu y cyffroad addysgol presenol. Tra mae hyn oll yn teilyngu ein cefnogaeth, onid oes perygl i addysg grefyddol gael ei hesgeuluso, ac i'w gwir werth gael ei fychanu1? Mae yn ddigon posibl i'r ymdrechion presenol i roddi addysg fydol i holl blant y genedl lyncu fyny yr oll iddynt eu hunain, ac i addysg o nodwedd wir grefyddol gael ei thaflu o'r neilldu. Byddai rhoddi öbrdd i'r brofedigaeth hon yn golled anadferadwy i'n gwlad, ac yn ddim llai na thrychineb alaethus i'n cenedl. Ni fyddai y genedl Gyrareig yn cael eu haddurno â'u rhinwedd- au presenol oni bai llafur a hunan-aberth y tadau yn cyfranu addysg grefyddol i ieuenctyd eu hoes. Nid oes modd cyfrif am loëwder cymdeithasol y genedl, ond trwy addef dylanwad addysg grefyddol fel gallu cryf yn nyrchatìad y bobl. Pan beidia y gallu hwn a gweithredu mae perygl i genedl grefyddol syrthio i galedwch ac anffyddiaeth fyddo yn ei diraddio yn fwy gwaradwyddus na'r ofergoeliaeth a orchfygwyd gan y tadau. Nid rheswm a deall yw unig briodoleddau meddwl dyn, ond y mae ganddo ewyllys, a serchiadau, a chydwybod hefyd. Y priodoleddau hyn ydynt y prif elfenau sydd yn ei wneyd yn fòd anfarwol a chyfrifol. Bodolaeth y priodoleddau hyn, yn benaf, sydd yn fturfio cysylltiad rhwng dyn â byd arall. Ac felly, mae yn anrhaethol bwysig fod y rhanau hyn o hono yn cael eu dysgu yn briodol. Cenhadaeth fawr addysg grefyddol yw dysgu ufudd-dod i ewyllys ystyfnig a phechadurus—-rhoddi i'r serchiadau wrthrychau teilwng, aruchel, a dwyfol i ymhyfrydu ynddynt—goleuo a phuro y gydwybod fel y gallo weithredu yn " ddirwystr tuag at Dduw a dynion." Gan mai cyneddf is-raddol a chymharol yw deall yn meddwl dyn.a chan mai ewyllys, serch.achydwybodsydd yn ei wahaniaethu yn benaf oddi- wrth greaduriaid eraill adnabyddus yn lly wodraeth Duw. Mae yn ddigon