Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"ÿdgnfäitff ÿt IÜ£qoI ^äbbaíîfal Rhif 6.] MEDI 1884. [Cyf. 1. Y DDUWINYDDIAETH DDIWEDDARAF. GAN Y PARCH. R. S. WILLIAMS, BETHESDA. Gall penawd o fath yr bwn sydd uwch ben ein hysgrif gynyrchu ofn mewn llawer calon, a bod yn achlysur i ychwanegu difaterwch mewn eraill. Ond pe ceid ymdriniaeth helaeth a chlir ar y mater, diau y dygid Uuaws mawr i werthfawrogi y datguddiad dwyfol yn fwy nag erioed. Mae rhai wedi glynu cymaint wrth ífurfìau dynol, a roddwyd i ffydd yr efengyl ganrifoedd yn ol: yn gosod gair mawr—nid gormod—ar y daioni gynyrchwyd ganddynt: yn cysylltu achubiaeth y byd â derbyniad crediniol o honynt, fel y mae son am eu newid yn llanw eu meddwl âg arswyd, am fod y fath beth yn gorchuddio sêr eu gobeithion dysgleiriaf â chymylau a thy- wyllwch. Edrychant ar yr ymddygiad yn gyff'elyb i osod un anghyfar- wydd i ofalu am deithiwr wedi ei ddal gan niwl mewn lleoedd peryglus, yn hytrach na'i adael yn ngofal ei hen arweinydd medrus a phrofiadol. Ni raid i neb fedru gweled yn mhell cyn bod yn allnog i ddweyd yu mlaen llaw, beth a ddygwydd i'r ddau. Beth, ai nid oes sicrwydd gwirionedd yn perthyn i'r credoau y bu ein henaíîaid yn hunanymwadu ac aberthu cym- aint er eu hamddiffyn? Oni fyddai cyhoeddi yr hen athrawiaeth yn attalfa ar gynydd anwiredd, yn effeithiol i symud o'r tir lawer o arferion pechadur- us; ac megys adgyfodiad o feirw i rinwedd, purdeb, a daioni. Os nad oes gan ddynion rywbeth gwell i'w gynyg yn eu lle, ofnir am ganlyniadau y cyfnewidiad. Nid yw yn anmhosibl, nac yn anhebygol, na theimla eraill duedd i fod yn fwy difraw a difater am wirioneddau y datguddiad dwyfol, o herwydd y cynhwrf a gyfodir er ceisio symud yr hen derfynau. Wrth weled arwydd- ion o gymaint amheuaeth am rai o athrawiaethau crefydd niewn dynion a broffesänt eu credu, a llawer o honynt yn ddysgedig, ac yn fedrus yn y gorchwyl o chwilio y profion o'u dilysrwydd, a'u hawydd i wneud i ffwrdd â chredoau; hawdd ydyw i'r esgeulus fyned i gyfiawnhau ei esgeulusdra, a pheidio ymdrafferthu i geisio ffurfio barn bersonol ar y fath gwestiynau. Ond i'r gwwthwyneb y dylai effaith y cyfryw ymddygiadau fod arnynt. Os oes anhawsderau na feddyliwyd am danynt yn ymddangos, dylid ychwanegu yr ymdrech, a mwyhau y llafur gyda phenderfyniad o'u darostwng. Nid oes ond un o ddau beth yn cyfreithloni segurdod yn y mater hwn, naill a'i diffyg gallu meddyliol i gario yn mlaen ymchwyli&d personol i gyn- wysiad y gair, neu ynte diffyg moddion i wneud hyny gyda graddau digon- of o sicrwydd am Iwyddiant, i gymell dyn at y gorchwyl. Diffyg llygaid i ganfod gwrthddrychau, neu ddiffyg goleuni i'w dangos. Mae cyflawnder o'r olaf yn nghyrhaedd pawb, ac eithriad anarfeiol ydy w prinder o'r blaenaf.