Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^ÿd^njmtìf ÿt iffjêgct ^äbbaíffal Rhif 5.] AWST, 1884. [04*. I. PA DDRWG A WNAETH YR HEN DESTAMENT? GAN Y PARCH. J. R. WILLIAMS, HIRWAEN. iE'Nsicr "Pa ddrwg" pan y ceuir ef allan ymron yn hollol o'n Hysgolion Sabbothol. Ceir rhesyinau cedyrn dros ei gau o'n hysgolion elfenol, ond beth sydd yn cyfiawnhau hyny mewn sefydliad amcanedig i ddysgu meddwl Duw mewn crefydd ddadguddiedig 1 Pa faint yw nifer ein Hysgolion y rhai wnant honiad eu bod yn cymeryd yr Hen Destament i fewn i gylch eu hefrydiaeth 1 Os ceir dosbarth neu ddau dyna'r oll, mewn ysgol o dri chant neu ychwaneg; oddigerth fod yr ysgol yn dilyn cynllun y Wers, yr hon gymer tua chwe' mis bob blwyddyn i esbonio yr Hen Destament. Pa esgusodion geir dros hyn ? Bu adeg pan yr oedd Beiblau yn ddrud, allan o gyrhaedd y cyffredin, ac yn anhylaw iawn i'w cymeryd i'r dosbarth bob Sabboth; ond erbyn heddyw (diolch i'r Feibl Gymdeithas) ceir yr oll o Air Duw am bris mor isel, ac mewn plyg bychan a rhwymiad mor gyfleus; fel nad oes gan neb esgusawd dros beidio meddu "Beibl bach," i'w gymeryd yn y Uogell a'i ddefnyddio ar yr achlysur a fynont. Gwir fod yn ein mysg brinder mawr o esboniadau Oymraeg da ar yr Hen Destament, a hon fe allai yw y brif wrthddadl dros gau allan y gyfraith a'r proffwydi o'r Ysgol- ion, ond yn hyn fel mewn pethau eraill, yr angen dýn allan y cyflenwad. Pe teimlid yn ddigon dwfn a chyffredinol yr eisieu hwn, am esboniadau darllenadwy, o nodwedd uchel, diameu y dylifent tuag atom o bob cyfeir- iad. A phe arhosai pethau fel y maent, ni raid i neb sydd yn cerdded llinellau y Wers gwyno ; oblegid darperir ar eu cyfer yn wythnosol a mis- ol. Ond ofnwn ein bod wrth ystyried ein hunain yn ddeiliaid goruchwyl- iaeth yr Efengyl mewn gwrthgyferbyniad i oruchwyliaeth Moses, mewn perygl o gyfeiliorni, a myned i dybied gan ein bod yn ymwadu â phobpeth seremoniol a deddfol, nad oes arnom rwymau i ddilyn ac astudio yr Hen Destament. Yn angerdd ein sel dros y Newydd anghofiwn roddi y lle dyladwy i'r Hen. Y mae y Newydd yn bwysicach i ni ac yn agosach atom, ond ni wna hyny yr Hen yn ddifudd na symud ymaith ein rhwymau i'w ddysgu. Nid oes wahaniaeth rhwng yr Hen a'r Newydd, ond gwahaniaeth y pren mewn gwreiddyn a boncyff oddiwrth yr hyn fydd mewn blodeuyn a ffrwyth. Yr un yw'r pren ond mewn stâd îs o ddadblygiad. Nid ydyw y gyfraith seremonîol a'r defodau Lefiticaidd yn rhwymedig arnom mae'n wir, ond nid ydym wedi peidio â Moses yn herwydd hyny. Nid dyna'r oll sydd yn yr Hen Destament. Gwelir yma " ffordd angau, a ffordd einioes," yn ymwahanu ac ymbellhau oddiwrth ei gilydd ; ac os na wna " miloedd o feheryn, na myrddiwn o ffrydiau olew," foddloni yr Arglwydd, "efe a ddang- osodd i ti ddyn," drwy yr Hen Destament, "beth agais yr Arglwydd genyt," sef "gwneuthur barn a hoffi trugaredd ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw." Ceir yma brif egwyddorion Oristionogaeth yn dod i'r amlwg mewn gwendid