Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

vdvnfmtì( gt ÿfyal ^äbbûtfial Rhip 3.] MEHEFIN, 1884. [Cyf. I. PERTHYNAS YR EGLWYS A'R YSGOL SABBOTHOL. GAN Y PARCH. DAVID EVANS, CAERFYRDDIN. Nid ydym yn credu yn y tylwyth sydd yn honi fod pob rhagoriaeth yn y gorphenol, a phob drwg a diffyg yn y presenol. Yn sicr, ni ellir diwygio diffygion y presenol drwy ddanod i ni ragoriaeth ein tadau. Yr un pryd, ymddengys i ni fod sail gan yr Ysgol Sabbothol i gwyno yn erbyn yr Eglwys, a phosibl hefyd, fod gan yr Eglwys hithäu, ryw gymaint o sail dros acnwyn yn erbyn yr Ysgol. Mae perygl myned i eithafìon y naill ochr a'r Uall. A ydy w ddim yn bosibl cael gwell dealltwriaeth rhwng yr Eglwys a'r Ysgol Sabbothol, a chael agosach perthynas yn ymarferol rhyngddynt ì Mae yr ymofynion hyn wedi bod ar ein meddwl er's cryn amser. Gwyddom fod yma fwy o bellder a dieithrwch nag.a ddylai fod, ond nid ydym yn gallu boddhau ein hunain ar y moddion effeithiolaf i'w symud. Goddefed ein darllenwyr i ni fwrw ychydig o awgrymiadau ger eu bron, a all, o leiaf, wneud rhyw gymaint o ddaioni. Beth yw amcan gwreiddiol yr Ysgol Sabbothol ? A oes i'r Sefydliad amcan eglwysigì Dadleua rhai nad oes son am Ysgol Sabbothol o gwbl yn yr Ysgrytbyr. Oydnabyddwn ar unwaith nad yw yr enw yma, ac mai dynion a roddasant i'r Sefydliad y ffurf neillduol a berthyn iddò. Os ydys yn myned i ddal ar eiriau, a chwareu ar dermau, yn hytrach nag egwyddor a hanfod pethau, gellir gwneud i ffwrdd a sefydliadáu sydd fel canwyll ein llygaid, ac yn anhebgorion i ddadblygiad a llwyddiant crefydd ar y ddaeár, megys y Cymdeithasau Beiblaidd, a Chenhadol, y cwrdd gweddi a'r gyf- eillach, ni cheir eu henwau yn y Beibl, ond credwn fod eu hegwyddor mor Feiblaidd a'r Llyfr dwyfol ei hunan. Yr un modd ám yr Ysgol Sabbothol,—dynol yw y ffurf ond dwyfol yw yr egwyddor. Yn y commisiwn a roddodd yr Arglwydd Iesu i'r Egìwys, ceir dysgu yn un o'r prif bethau. Mae dysgu yn rhan mor bwysig o'r ymddiriediaeth a roddwyd i'r eglwys ag ydyw bedyddio, a gwelir fod y bedyddio yn y commisiwn o flaen y dysgu,—dysgu y rhai a wneid yn ddysgyblion drwy fedydd. Mae yr Eglwys drwy y bedydd yn cydnabod ei siars i ddysgu. Gadawyd y dull o gario allan y bedydd a'r addysg i ddoethineb yr Eglwys, yn ngwyneb gwahanol amgylchiadau. Mae y commisiwn yn profi fod yr Eglwys i wisgo gwedd genhadol—a bodîdysgü yr hyn oll a orchymynodd Crist, yn rhan hanfodol o'i chenhadaeth. Cyn y gall ei chenhadaeth brofi yn effeithiol, rhaid iddi fyned at y byd— rhaid iddi gael gafael ynddo. h.y., rhaid iddi wisgo agwedd ei Harglwydd, a meddu ei Ysbryd—" Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd o]euni dynipn,"—dygwyd y bywyd oedd ynddo i gysylltiad bëniâithiol a^dynion. Yr ydym yn edrych ar yr Ysgol Sabbothol fel man cyfarfod ýr Eglwys â'r byd ar dir crefyddol,—y man y gall hi brofi o fwyaf bendith i-r "byd, a'r