Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 2.] MAI, 1884. [Cyf. I. BETH SYDD YN EISIETJ ? GAN R. THOMAS, GLANDWR. Teimlir, a chwynir yn fynych, a hyny gan lawer yn y dyddiau hyn, nad yw yr Ysgol Sabbothol " y peth " y byddai yn ddymunol ei bod; ac â rhai mor bell a dyweyd, nad yw yn gwasanaethu i nemawr, os dim gwir ddaioni yn ein plith ar hyn o bryd. Nid ydym yn credu mewn cwyno, na bod rhyw lawer o ddaioni erioed wedi deilliaw i unrhyw achos trwy gwyno; ac nid ydym yn credu ychwaith fod seiliau teg a digonol i'r cwynion mynych a thrymion a ddygir gan rai, yn erbyn y sefydHad dan sylw. Byddai yn dda i ni gofio hefyd, fod cwyno,—fel rhai twymynau—yn dra heintus ac ymledol ' yn ei ddylanwad, ac nad oes gan lawer un, reswm dros gwyno, ond eu bod yn clywed eraill yn gwneud hyny. Ond, a chaniatau hynyna, y mae yn rhaid cydnabod nad yw yr Ysgol Sabbothol yn ein mysg y blynyddau hyn, yn gyfryw y byddai yn ddymunol ei bod, ac a ellir o honi. Beth sydd yn eisieu ? Dyna'r cwestiwn, a chwestiwn sydd yn dyfod i wasgu yn drymach, drymaeh, am atebiad iddo, y naill flwyddyn ar ol y llall. Fod rhoddi atebiad llawn, clir, a boddhaol iddo yn fwy nag a ddisgwylir oddi wrtbym mewn cylch mor gyfyng ag a ganiateir i ni yma; ac yn wir, pe buasai ein gofod yn caniatau i ni ysgrifenu yn Uawer helaethach ar y mater, nid ydym yn sicr y gallasem nodi beth yw yr hyn sydd yn eisieu. Mae yn hawdd i'w deimlo, ond nid mor hawdd i'w ddyweyd. " Bora da i ch'i, John Williams," ebai William Jones wrth gydweithiwr iddo, pan yn taro ar eu gilydd ar y ffordd i'r gwaith y dydd o'r blaen. " Bora da, William Jones, bora da," ebai John Williams, mewn tôn a goslef oedd yn eglur ddangos fod rhywbeth allan o'i le. " Beth," ebai William Jones, gan droi ato, ac edrych arno, " Ydach ch'i ddim yn teimlo yn dda heddy w, John Williams T " Nac ydw wir, ddim agos yn dda." " Felly'n siwr, mae'n ddrwg gen i glywad. Be' sy' arnoch ch'i ?" "Wn i ddim be' sy' arnai i " " Yn y'ch pen ch'i y mae'r boen?" "ISTa 'does arnai boen neillduol yn unlle—ond 'dy'dw'i ddim yn teimlo'n hwylus, r'wsut." Dyna brofiad yr hen frawd John Williams y boreu hwnw—dim agos yn dda,—ddim yn teimlo'n hwylus,—rhywbeth yn eisieu; ac eto yn methu dyweyd beth oedd y mater arno. Dyna yw ein profiad ninau i fesur helaeth yn nglyn a'r mater tan sylw. Teimlwn yn sicr fod yna rywbeth yn eisieu er gwneud yr Ysgol Sabbothol yn fwy o allu er daioni yn ein pìith ni; ond y mae dyweyd beth yw, yn gwestiwn nad ydym yn sicr y gallwn ni ei ateb i foddlonrwydd ein darllenwyr. Beth sydd yn eisieu? Ai rhagorach llyfr na'r un sydd gan yr Tsgol SabbotJiol i'w ddysgu ? Dyna fu—os nad dyna sydd,—yn cael ei deimlo yn eisieu mewn sefydliadau addysgol,—rhagorach text-books. Nid dyna sydd yn eisieu yma. Beth, rhagorach llyfr na'r Beibl ì Maddeuer i ni am ofyn y fath gwestiwn. Pa le y ceir ei ragorach 1 Pa le yn wir, y ceir ei gyffelyb ì