Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"' .ül.-^-U-.' ■•■" lih. No. ;,1.;ä^:W ©^sasaisŵ •Rhip.' IOXiWR. [Cyf. III. ANERCHIAD AT GENEDL YR HEN GYMMRY. Plant y Mynydd-dir, a hiliogaeth Car- adawg, ac enwogion dirifedi: — Dys- claer yn hanesyddiaeth y byd ydyw eich henwau mal cenedl, eich dewrder o blaid rhyddid, eich gwroldeb yn amddiffyh eîch defion, (rights), ac eich enwogrwydd a'ch ymddygiad yn rahob amgylchiad. Bu eichenw yn arswydi orthryrawyr,yn rhyf- eddiad a gorhoffder i'r mawrfrydig, ac yn destynau canmoliaeth a gorfoledd gau Awenyddion godi.locaf y cynoesoedd. A gwedi llwyddo yn ystod oesoedd maith, yn ngwyneb terfysgoedd gwladawl, lluchedd mellt, a tharanau angerddawl, i gadw eich enw a'ch iaith yn ddilwgr, wele yr hen Gymmry, tan nodded y Goruchaf, wedi ymorphwys er ys hir amser yn dawel a heddychlawn yn mysg bryniau amynydd- oedd gorllewiaawl Ynys Prydain, a'u henw, a'u hiaith eto mewn bodoliaeth, mewn cymeradwyaeth, a pharch. Ond, gofynwch i'r sawl a deithiasent yn aml trwy wlad y Cymmry yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, onid ydyw ein iaith, o radd i radd, yn colli tiryn mbob gwlad ac yn mhob tref; a hwy a ddywedant, os atebant yn gydwybodawl, (er fod yma ac acw amrai yn cynnyddu mewn cywrein- rwydd ynddi), fod hyn, ysywaeth, yn wir nas gellir ei wrthbrofi. A roddwn ni gan hyny i fynu i segurdod a diystyrwch y pethau na fu ein gelynion lliosecaf a'n gwrthwynebwyr dewraf yn alluog i'n hym- ddifadu o honynt, — sef ein iaíth a'n henw ? Atebwch yn unfrydawl,—ona roddwn, na fydded i hyny beth gymeryd lle ;—Tra mor, Tra Brython, — Oesy byd Vr Iaith Gym- mraeg. Ond, Gymmry anwyl, ofer yw gwresawgrwydd ein calonau o barthed ein iaith, — ffolineb i ni waeddi allan ' Oes y byd i'r Iaith Gymmraeg,' oni ddangoswn ffyddlondeb ein ewyllys tuag ati, mewn modd mwy llcsawl nâ geiriau a gwag- ymffro8t. Pan fyddo cyfaill i ni ar fin trengu ar y ffordd, o oerfel neu angen, onid ffolineb a chreulondeb a fyddai i ni lefain uwch ei ben, 'iechyd a hir einioes iti,y os na chyfranwn iddo ryw ymgeledd mwy rheidiawl a defnyddiawl. Felly hefyd gyd- a'n Hiaith, nid wrth daranu byrddau mewn gwleddoedd,a chrochfloeddio uwch ei phen —Oesy byd i'r Iaith Gymmraeg, y gallhi fyw mewn harddwch a'n gweinyddy mewn grymusder. Ac heb ryw ymdrechiadau o newydd o'i phlaid, y mae mor sicr a bod yr haul yn y ffurfafen, yr â hi o ychydig i ychydig i dir anghof. Onid gwir yw, fod y rhan fwyafo foneddigion ein gwlad eisioes mor anwybodus o honi fel nad ellant ddal i ymddyddan ynddi ? Yn y rhan fwyaf o\i cymdeithasau gwladawl, a'u cyfarfodydd masnachawl, a glywir yno — Yr hen Gymmraeg loewaeg lon, Mal eoslais melyslon ? Bu y Gerniwaeg unwaith mewn bri mawr gan bendefigion, dewrion a chyffredin, eu gwlad. Bu am amser maith yn arglwydd- iaethu yn y llys, ac yn perseinio o'r ar- eithfa. Yn awr ni chlywir ei llais, hyd yn nod, mewn un bwthyn bach ar y mynydd nac mewn un congl yn y glyn ! Ofni yr wyf fod amrai, heb eisio cariad at en hiaith, eto yn gorphwys mewn segur- dod, dan hyderu y bydd iddi, o anghen- rheidrwydd, bara hyd ddiwedd byd, er iddynt hwy, a'u plant, a'u cyfeillion, ei diystyru a'i hangotìo; ac, eu bod yn credu mai Hais y nef a lefarodd y Bardd, pan ddywedodd — 'Eu hiaith a gadwant, Eu tir a gollant, Ond gwyllt Walia.' Eithr pa beth sydd yn ein hiaith ni yn fwy nag oedd mewn ieithoedd ereill, ì*ẁ hatal rhag myned raewn amser ar ddifancoll, mal yr aethant h wy,os diystyrwn hi acos esgeulus- wn ei harferyd yn ein hymddyddaaion. Ac os collwn unwaith.y Gymmraeg,dyan. ddiw- edd arnom fel cenedl am byth ; machluda haul y Cymmry heb byth i godi mwy, ac ni sonir am danynt mal cenedI,ond fel dryllran o'rhyn a ddiflannodd yneigion mawr ang- hofiaut. Heb y Gymmraeg ni sonir am danom mwy, dan yr enw Cymmry, ac nid! adwaenir ni o hyny allan oddieithr 'wrtb ryw enw megys fYest Countrymen a'tt