Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

n <mmmm®< RllIF. VII. GORPHENHAF, 1831. Cyf. II. BYfTYD A NODJYEDDIAD PERSONAU CYHOEDDUS. Y PARCH. ROWLAND HILL. Yn yr ysbaid hwn o seibiantyn helyntíon y Sene'íd, hydérwn nad anaddas fydd galw sylw ein darllenwyr oddiwrlh enwogion y wladwriaetli at hen weinidog parchus i Iesu Grist, yr hwn mae ei enw mor adna- byddus i bawb, ac y mae ei ymdrechiadau haelionus wedi bod mor fendithiol i'w oes a'i genedlaeth. Mae teulu y gwr duwiol hwn yn enwog er ys ainser maith am garedigrwydd a rhin- wedd. Ain flynyddau mae wedi arddangos effeithiau enghraifft dda ac addysgiadau crefyddol. Trwy y moddion hyn mae pob penteulu yn olynawl wedi trosglwyddo ei rinweddau ei hun i'w hiliogaeth, y rhai yn eu tro a gariasant yr unrhyw etifeddiaeth i'w plant hwythau. Erioed ni chadarn- hawyd y rhan hono o'r ysgrythyr yn fwy nag yn y teulu hwn.—'Çenedlaeth wrth genedlaeth afawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.' Tad ein duwinydd oedd Syr Rowland ■Hill; yr hwn, ar ei farwolaeth yn 1783 a ddylynwyd yn ei hawl-f'raint a'i feddiannau gan ei fab hynaf, Richard. Bu Richard am hir amser yn aelod y Senedd dros swydd Amwythig. Ac ar ei farwolaeth yn 1808 dylynwyd ef gan ei frawd nesaf John, tad y presennol Arglwydd Hill. Y Parch. Rowland Hill oedd y trydydfl a'r ieuangaf o'r brodyr. Ganwyd ef yn Hawkstone, yn mis Awst, 1744. Dygwydef i fynu yn gyut- afynysgol Eton, a thra bu yn aros yno dechreuodd ddangos yr athrylith ymad- rodd sydd yn bywiogi ei ymddyddanion, yn nghyd a'r gwroldeb meddwl sydd yn llewyrchu nior ddysglaer yn ei nodweddiad. Pan yn fachgen, yn gystal ag yn fwy oed- ranus, gallasai geryddu am y bai heb dynu gwg y beius trwy sarugrwydd: y cyn- neddfau hyn, yn gyssylltiedig à thymher fywiog, serchiadol, a ennillasant iddo barch ac ymddiried y mwyaf syml o'i feis- triaid o'igydysgolheigion. Tu a'r amser hyn yr oedd yr apostolaidd Whitfìeld yn uchder ei boblogrwydd a'i lwyddiant, a'ibleidwyr a'i wrthwynebwyr a ddadleuent yn ei gyleh yn y modd niwyaf eiddigus. Yinofynodd Mr Hill yn fanwl Í4 i'r pwnc, a gwnaeth ei hun yn wybodus o hanes bywyd a nodweddiad Mr. Whitfield, yn gystal a'r egwyddorion trwy ba rai eu rheolid. Golygiadau cywir ar y mater hwn, ac adnabyddiaeth foreu o ysgrifeniadau Hervey, Henry, a Doddridge, oeddynt y moddion a arweiniasant ei gamrau ieuainc i ffyrdd gwirionedd a santeiddrwydd. At hyn rhaid ychwanegu un offeryn arall a fu yn dra effeithiol i'r dyben hwn, sefgoheb- iaeth ffyddlon ei frawd hynaf Richard. Un o'i lythyrau, yr hwn sydd yn llawn o gyng- horion buddiol aphwysig, a ysgrifenwyd at ei frawd yn Eton, ac a ymddangosodd wedi'n yn llawer o gyhoeddiadau cyfnod- awl. Arosodd yn Eton oddeutu pedair blyn- edd, pan y symudwyd ef i Gaergrawnt, i Goleg St. Ioan, yn fuan wedi iddo gyr- haedddeunaw oed? yno bu mor ddedwydd a chael gafael ar gyfaill i ba un y gallai arllwys ei fynwes yn y modd mwyaf digel a syniadau ac ysbryd yr hwn oeddyntyn cydfyned a'r eiddo ei hun : y cyfaill hwn oedd y diweddar Barch. David Simpson o Macclesfield, awdur y llyfr a elwir * Dadl dros Grefydd a'r Ysgrythyrau Santaidd.' Rhwng y ddau gyfaill yma yr oedd llawer o gymhariaeth hynod, yr oedd tuedd eu meddyliau a'u dull o ymadroddi yn dra thebyg. Ni bu Mr. Simpson erioed yn feddiannol ar nerth llais a grym lleferydd Mr.HiIl yn yr areithfa.Gellir ammeu hefyd a oedd Mr. Simpson, yn enwedig pan yn Caergrawnt,morGalfinaiddyn ei farn âMr. Hill. Ond yn mhrif gynneddfau gweinidog yr efengyl yr oeddynt yn dra thebyg. Meddent ill dau ar ysbryd digryn ac an- ymddibynol, yr hyn a'u galluogodd i orch- fygu eu serch atEglwysLoegr, er ei fod yn gryf a diragrith, pan oedd cyfleusderau i fod yn fwy defnyddiol tu allan i'w mur- iau yn cynnyg eu hunain, a phan oeddynt yn debyg o wneyd mwy o les trwydori na thrwy gadw rheolau canonaidd. Cyn i Mr.Hill gyrhaedd yroedran addas i dderbyn urddau, pregethai yn y carchar ac mewn auneddau yn Caergrawnt, ac yn nghapel Mr. Whitfield yn Lluudain.