Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

7 <KX&IBHB<Di» Rhif. IV. J EBRILL, 1831. [Cyf. II. BYWYD A NODWEDDIAD PERSONAU CYHOEDDUS. ARGLWYO» BROIGH4M. Ym mhlith Uywodyddion yr oes bresennol addefir yn rhwydd nad oes neb wedi cyr- haedd mwy o enwogrwydd, ac wedi medd- iannu llywodraeth helaethach dros y ìneddwl cyhoeddus nâ y Person anrhyd- eddushwn. MaeArglwydd Brougham yn discyn o deuluparchus yn swydd Westmor- land; fe aeth ei dad i Edinburgh er mwyn helaethiad dysg, ac yn fuan a briododd chwaer yr enwog hanesydd Dr. Robert- son. H. Brougham oedd yr hynaf o'rteulu hwn, ac a anwyd yn Edinburgh oddeutu y flwyddyn 17T8. Amlygwyd fod ganddo dalentau rhagorol yn ieuanc iawn, pan oedd yn 14 neu 15oedd, cafodd ei gyfar- wyddo fel ymwelwr un tro i'r Gymdeithas Ddadleuol, (Roj/al Medicalj, lle y cododd ifynuer mor ieuanc oedd ac a arethiodd droshanner awr. Ei fom, yr hon sy eto yn fyw, ac yn cartrefu yn Neuadd Brough- am yn y swydd uchod, ac i addysg ei fam, debygid, y mae i ni briodoli ei gynnefin- dra nodedig â'r Ysgrythyrau Santaidd. Fel cyfreithiwr, yr oedd wedi enwogi ei hun er ys blynyddau, yn neillduol yn y Cylchoedd Gogleddol. Er, fe allai, fod rhai yn fwy hyfedr yn nhroelliadau cyw- reinddull y gyfraith, eto mewn gwybodaeth gyffredinol a grymusder araetbyddiaeth, gadawai bawb yn mhellarol. Yn y byd dysgedig hefyd, mae Arglwydd Brougham wedi ennill lle uchel. Buodd yn un o brif-ategwyr yr Edihburgh Reyiew er cychwyniad y cyhoeddiad hwnw, ac y mae amrai bapyrau o'i ysgrifell ar ganghenau uchaf gwybodaeth yn y Philosophical Transactions, a Nicholson's Journal. Ei enw hefyd a drosglwyddir i'r oesoedd dyfodol feî noddwr y Gymdeithas er Taeniad Gwybodaeth Fuddiol, ac fel syl- faenydd PrifysgolLlundain. Ysgrifenodd ddau gyf-lyfr yn amser Mr. Pitt, yn amddiífyn caeth-fasnach, ac yn cynnwys athrawiaeth ar y pwnc hwnw holl- ol groes i'r hyn a fabwysîadwyd gantho yn ganlynol. Coffawyd y llyfr liwn i'w erbyn yn ddiweddar yn y Senedd ; ond atebodd yntau nad oedd ef wedi edrych arno er ys 18 mly nedd. Darfu y gwaith hwn ei godi i sylw Mr. Pitt; ond beth bynag fu yr acbos o'r rhwygiad, dywedodd wedi hyny mai yr argraff a ddewisai ar ei gàreg fedd oedd, 1 Yina y gorwedd gelyn William Pitt.' Ond i Dy y Cyffredin y mae i ni edryçh am dano yn ei wir elfen. Cyiumerodd ei le gyntaf dros CameUbrd, wedi hyny dros Winchelsea, ac yn ddiweddaf dros Gaer- efrog. Yr hyn a'i derchaíodd gyntaf i sylw cyifredinol oedd achos Prawf y Frenines. Analluog yw desgrifio yr hyawdledd a ddangosodd fel ei Phrif-ddifFynwr, ei fed- rusrwydd yn dadguddio ac yn dynoethi gwrth-dystion, a'i apeliadau grymus o fiaen yr Arglwyddi. Haeddai hefyd y diolchgarwch gwresoeaf am ei ymdrechiadau cyson yn Nhy y Cyff- redin dros ddiwygiad yn ngweinyddiad y Gyfraith, ac yn nghynuuwysiad Cymun- roddion — dros ddiddymiad Caeth-wasan- aeth — acyn awr yn Nhy yr Arglwyddi dros ddiwygiad yn Lìys Cydwybod, (Court of Chancery). Ar y pwnc cyntaf, cofus yw ei araeth nodedig a barhaodd saith awr. Ond wedi yr amlygiad rhyfedd hwn o alluoedd meddwl a chorff; aeth o'rSenedd iddifyru ei hun yn nghynideithas rhai o'igyfeillion, lle y siaradodd ac y chwarddodd, fel na buasai dim wedi bod, hyd ddau o'r gloch : a dywedir na ddjbenodd ei lafur yma, ond iddo y noswaith liòno barotoi ysgrif i'r Edinburgu Reyiew. Ac yr oodd yn ei le yn y Brenin Lys, (Ä'ÍHg's liench), dran- noeth yn fuan gwedi naw. Deuwn bellach i fwrw golwg mwy neill- duol arno fel arethiwr. Yn Nhy y Cyff- redin eisteddai fynychaf yn yr ochr wrth- wynebol; ei olwg yn Ued sur a salw—ei het dros ei lygaid — nid anhebyg ei wisg- iad i bregethwr. Codai i lefaru gyda dwysder a darbwylledd. Ei lygad sefydlog a edrychai nid ur ei wrthwynebwyr ond írwj/ddj/nt. Yn mlaenaf, gosodai i lawr