Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

n ®vmih®* ' Oes g\vv na ddengys gariad 'I iaith ddilediaith ei Wlad," Rhif. 8. AWST, 1830. Cyf. I. EIN DIWSDDAR PARWHTDI, SIOR IV. TALFYRIAD O HANES EI FYWYD. Georoe Fredericr Aur,usTus,blaenffrwyth Sior III. o'r Frenines Charlotte, a anwyd y 12fed o Awst, 1/62; ar yr 1J o'r un mis fe'i gwnaethwyd yn Dywysog Cymru;* ac ar y 18fed o Fedi canlynol fe'i bedyddiwyd yn St. Iago. Yr oedd ef, pan yn blentyn, yn un o'r rhai harddaf a ganfyddid; a phan yn dair blwydd oed, tynwyd ei ffurf gan gelfyddwr cywrain, pa un a gedwir dan wydr hyd heddyw. Ar ben y gwydr mae coronig Tj ■•yysog Cymru. Cafodd ei alw, cyn ei fod yn dair blwydd oed, gan Gyindeithas Anrhydeddus o'n cyd- wladwyr. sefydlwyr yr Ysgol Gymraeg yn Ffordd Llety Gray, i roddi atebiad i'w hanerch. Dywedir ei fod pryd hyny yn gwrando yn ddwys pan ddarllenwyd yr anerch iddo', ac iddo adrodd yn eglur a chywir yr atebiad a barotowyd iddo, yr * Yt oedd er amser eu enedigaetli yn Dduc Cernyw. hwn oedd fel y canlyn:—" Foneddigion, yr wyf yn diolch i chwi am yr arwydd hyn o wasanaeth i'r Brenin, ac yn dymuno Uwydd- iant i'r elusen hon." Yn mhen • -hydig amser ar ol hyn cafodd ei wneyd yn Farch- og y Gardys. Yr oedd yn ol pob hanes yn un o'r plant rawyaf serchog i'w r'ieni. a dyweiiir eu bod yn sylwi, gyda Uawenydd, ar ei ymddygiad caruairld. Dysgawdydd cyntaf yTywysogieuanc oedd Arglwydd Holdemess, boneddig o dalentau a gwybodaeth rhagorol; ond o herwydd fod y Tywysog yn dueddol i ddarllen llyfrau nad oeddynt unol â meddW ei Arglwydd- iaeth efe a roddodd ei swydd i fynu. Y nesaf oedd Arglwydd Bruce; ond ni phar- haodd y boneddig hwn ddim dros fis i'w hyfforddi. Y nesaf oedd Dr. Marldiam, wedi hyn Archesgob Caer Efrog, a Mr. C. Jackson; pob un o'r dciau hyn a ymadaw- sant a'r sw-dd yn y tìwyddyn 1776, pryd y