Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

W (DVSHIB(D« Rhif. 7. " Oes g wr na ddengys gariad " I iaitli ddilcdiaith ei Wlad," GORPHENAF, 1830. Cyf. í. ©&&2.1ÎSPH1 NATUR A RHAGORFREINTIAU YR ORDINHAD O BRIODAS. A DRADDODWYD GER. GWYDD CYMREIGYDDION CAERLPDD, MEHEFIN 3, 1830. Dygwyd yr adeilad aruthrol hon, sef y gréadigaeth, i fodiaeth, o ddiddymdra, trwy air y Crëawdwr—a'r gorcheswaith hwn a orphenwyd. Ond er holl amrywiaethíiu y pethau a grëwyd, yr oedd un diffyg; oblegyd yn rahlith yrholl greaduriaid ni chafodd Efe i Adda ymgeledd gymhwys. Yr oedd y ddaear yn ei hardderchawgrwydd a'i ffrwythlon- rw; dd—y nefoedd yn ei gogoniant a'i dylan- wadau yn gweini pleser, agollat wasanaeth dyn; ondnid oedd y cwbl yn lleshau nemmawr id!o, tra heb yr un creadur o'i rywogaeth ei hun, i ba un y gallai gyfleu ei feddwl, apha un a allai gydgy franogi o'i ddedwyddwch. Ond y diffyg hwn a wnawd i fynu; oblegid dyw- edodd yr Arglwydd—"Nid da bod dyn yn unig, gwnafiddo ymgeledd cymhwys iddo." Felly gwelwn nad yw sefyllfa o unîgedd yn adJas i ddyn, ac nad yw annyweddîaeth yn ordinhad o eiddo y Goruchaf. Yr hwn a wnaeth ddyn, a wyddai beth oedd oreu er lles dyn; hefýd, mai dyna a ddylai fod yn brif beth yn newisiad cydymmaith priodasol "ydyw ymgeledd gymhwys;" a'r achos fod y rhan fwyaf mor atmedwydd yn y sefyllfa briodasol, ydyw eu bod wedi priodiy gwyn- eb, neu'r gôd, ac nid y person; " A'r Arglwydd a wnaeth i drwmgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac Efe a gym- merodd un o'i asenau ef, ac a gauodd gig yn ei lle hì. Ac o'r asen a gym- merasai efe o'r dyn, a wnaeth wraig, ac a'i dyg hi at y dyn, ac Adda a ddywedodd, hon sydd asgwrn o'ra hasgwrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o wr y cymmerwyd hi. O herwydd hyn ymedy gwr a'i dad a'i fam, ac y glyn wrth ei wraig." Yr achos y cyfeiriais eich meddwl at y fan yma ydyw, oblegid mai yma y cawn hanes am y sefydliad cýntaf o'r ordinhad hon, lle y gweìwn fod Llywodraethydd y byd yn cyhoeddi sefyllfa "arimhriodasol yn sef- yllfa ddrwg, neù os ydyw yn esmwythach gènych, nid yw yn un dda; er fod llawer o ddysgedigion, wedi dweyd yn ei her- byn, ond yn hyn nid ydynt yn deilwng o sylw ; canys mae gènym awdurdod well; yr hon a ddengys i ni resymoldeb a llesiant yr ordinhad ragorol hon. Ond heb dreulio eich amser deuaf yn uniongyrchol at y pwnc dan sylw; ni byddai ond gwag-dyb- iaeth ynof i feddwl y gallwn ddwyn ger eich gwydd lawer o syniadau newyddion ar des- tun sydd wedi bod dan sylw cynnifer o enwogion hen a diweddar ; ond cynnygaf rai sylwadau a all fod yn foddion i roddi goleuni ar y pwnc. I. Sefydliad yr ordìnhad hon.—Llawer o ddadleuon sydd wedi bod yn nghylch yr ordinhad hon, pa un ai appwyntiad o eiddo deddf natur, neu gyfraith wladol ydyw; meddyliai rhai nad oedd yr ordinhad hon yn arferedig hyd nes yr oedd yr oesoedd wedi cynnyddu a dyfod i drefn ac ychydig o reol; yn mhlith y cyfryw yT oedd Cicero; canys bu araser, medd efe, pan oedd dynion me- gys anifeiliaid gwylltion, yn gwibio ac yn crwydro ar led y ddaear, ac yn ymborthi ar anifeiliaid, megys gwylltfilod. Yna nid oedd rheswm dan un lywodraeth na rheol, ond pawb jn cael eu rheoli gan ragor- iaeth eu nerth, a rhwymedigaethau crefydd a moesoldeb yn anheimladwy—priodas gyf- reithlon yn anwybodus iddynt; ond y mae yn ymddangos yn eglur fod ei olygiad mewn perthynas i gyflwr gwreiddiol dyn yn neillduol o gymmysglyd; ac yn wir nid nemmawr llai o natur ei hun yn y man yma; oblegid mae natur wedi gofalu trefnu modd- ion er parhau hiliogaethau ereill, yr hyn a all daflu goleuni ar y pwnc presennol. Gyda golwg ar yr anifeiliaid hyny, cynnaliaeth pa rai yw gwellt y ddaear, ni byddai cyra- haru o ddim dyben; canys y mae'r fenyw yn porthi ei hun â'r ieuanc, ac yr un amser, nid oes gan y gwrryw ddim i'w wneuthur;