Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lî (BftWMb 1A oes gwr na ddengys garìad,—I iaith ddilediaith ci W7arí." Rhif. 4. EBRILL, 1830. Pris 4c, DARLITH AR RYDDID, CYMDEITHAS, A LLYWODRAETH. (Á draddadwyd gan H. HugLes, gergwydd Cymreigyddion, Caerludd, Mawrth 4,1830.) Y mae rhyddid yn anghenrheidiol i ddyn fel creadur rhesymol a chyfrifol;—ond nid yw o nemawr werth i'w berchenog lle nad oes gyradeithas;—ac nid oes gymdeithas heb lywodraeth. Mae hanfodiad llywodr- aeth a chyradeithas yn anghysson, er hyny, â pherffeithrwydd rhyddid personol; oblegid cyradeithasiad sydd gynnwysedig yn bènaf dira o derfyniada threfniad rhyddidyr aelod- au. Ni all cymdeithas foesol hanfodi Ue na bo y rhai a'i lluniant yn fodau rhesymol, a rhyddion ; oblegid rhan o'u rhyddid yw yr elw a roddant mewn cyfnewidiad am y raan- teision a darddant ì bob un o hanfodiad y gymdeithas. Clywsom yma, yn y flwyddyn a aeth heib- io,bethau rhagorol amgymdeithasddynol,— ei dechreuad, ei hamrywiaeth, a'i defnydd. Ymddangosodd hefyd oddiwrth sylwadau Caervallwch ar Gyfoeth, bod y peth bydol a ewyllysiwn yn bènaf yn ymddibynu yn hanfodol ar lwyddiant cymdeithas. Ym- ddangosodd bod meddiant yn waeth nag ym- ddifadrwydd; a bod noethder, cyffelyb i'r hyn a welir arnom yn dychwelyd i groth ein mam, yn fwy dewisol i ddyn, lle y darfyddo cymdeithas, nâ bod yn feddiannol ar elw. Pe buasai dydd wedi ei bennodi yn yr hwn ni byddai gymdeithas, nid angeu, ond y dydd hwnn a gawsai ei alw yn " frenin v DYCHRYNIADAU." Ond y peth c. ntaf i sylwi arno yn bresen- nol yw rhyddid. Rhyddid sydd etifeddiaeth creadur rhe- syraol gan Dduw. Rhagluniaeth ddwyfol sydd yn rhoddi i ddyn gyfoeth, a pherthyn- asau caredig, a chyfeillion hawddgar; ond rhoddir y pethau hyn wrth fesur, Ue rhoddir hwy helaethaf (a rhoddir i lawer ond ychydg iawn o'r naill na'r llall,) ond rhyddid yr hyn sydd werthfawrusach i ddyn nâ'r holl bethau hyn, aroddir i bob un i'r un helaeth- rwydd,—helaethrwydd difesur. Pethhynod a ddengys bod rhyddid i'wystryied yn ddawn ragorach nag un arall; yw hyn:—Heblawei fod wedi ei rhoddi i bob dyn i'r un helaeth- rwydd, y mae yr Hwn a'i rhoddodd wedi gosod yn mhob un anian, neu reddfnaturiol i'w gwerthfawrogi, ac i'w hymddiffyn, os bydd raid, hyd at gollediad pob dawn arall a fèdd. Nynì a fuasem (ni y Cymry,) j n gwybod bod y fath reddf yn hanfodi yn anian dyn pe buasem ni yn bersonol heb feddu teimladau dynol, a phe na buasai ond wn llyfr wedi syrthio i'n dwylaw,—llyfr hanes ein Cenedl yn y cyn-oesoedd—buasai hwnw ei hunan yn ddigonol i'n boddloni ar y pwnc! Ond a ydym ni yn amddifad o deimladau dynol?— Pa beth yw'r achos na baem ni yn awr â'n cleddyfau, a'n bwäu yn ein dwylaW, yn amgylchu gwlad ein genedigaeth, ac yn peri dychryn yn mhyrth a gwersylloedd gor- meswyr? Onid hyn?—bod rhyddid mewn mwynhad genytn ? a bod gorthrymwyr wedi diflanu fel brasder wyn o flaen gwrol ymröad, a grym gwaew-ffyn ein cyndadau? Cariad at ryddid yw rheol bywyd ac anadl einioes Cymro yn mhob oes.—Rhydd- id sydd yn gosod dyn yn y sefyllfa sydd briodol i ddyn, a charìad at ryddid jw y rhagoriaeth awnaddyn yn deilwng o'r sefyll- fà sy'dd briodol iddo. Gormeswr, neu draws lywodraethwr, sydd yspeilydd rhyddid—sydd yspeilydd dyn o'r ddawn rhagoraf y cynnys- gaeddwyd ef â hi gan y Nef; a'r fwyaf an- hepcorol a fwynha. Gormeswr, am hyny, sydd arch-wrthryfelwr yn erbyn ewyllys y Nef; a phrif-elyn dynoliaeth. Llywodraethwr mawr y grëadigaeth a adawodd ei ddeiliaid rhesymol yn rhyddion felEf ei hun, ac o herwydd hyn mae crëad- ur yn addas i gynnal cymundeb gydâ ei Wneuthurwr. Gormeswr a ymdderchafa uwchlaw pob petha lywodraetha mewn cyf- iawnderî Traws-arglwyddiaeth a gormes ar ddynion yw Pabyddiaeth—(nid pabydd- aeth Rhufain, yn unig, wyf yn feddwl—ac nid gorthrymder crefyddol, yn unig.) A welsoch chwi erioed duedd mewn dyn i arfer awdurdod ar eich meddyliau pan farnech mewnachos obwys? Pabydd, hÿny yw, y fath waethaf o ormeswr, oeddy dyn hwnw; pa