Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLENOR. Rhif. 11.] TACHWEDD, 1860. [Cýfrol I. LLYFR Y LLYFRAU. GaN y parch. john pritchard, amlwch. Dyn ydyw yr unig greadur ar y ddaear sydd yn meddu cymhwysder i dderbyn addysg, neu i chwilio am wÿbodaeth. Y mae dyn wedi ei wneuthur i wybod, ac i sugno difyrwch o wybod,—wedi ei gynysgaeddu â galluoedd i chwilio am wybodaeth, a chymhwysderaú i yfed llawer o ddedwyddwch o honi wedi ei chyraedd. Dyma un 0 brif ragoriaethau dyn fel creadur ar y creaduriaid israddol iddo, sef ei fod ẅedi ei wneuthur i wybod, a bod gwybodaeth yn ôŷnhonell difyrwch iddo. A mwyaf y mae dyn yn ei wybod cryfaf yn y byd ydyw ei alluoedd i wybod, a chryfaf yn y bydydyw ei awydd a'i syched am wybodaeth. Os bydd i'r darUenydd cnwilio am wybodaeth, "cyfodi ei lef am ddeall," "chwüio am dani fel am drysorau cuddiedig," na feddylied am fynyd y cyrhaedda y graddau hyny o wybodaeth a'i gwna yn berfiFaith dawel heb ragor o honi, oblegyd y mae awydd am wybodaeth fel y gele, yn gwaeddi, "Moes, moes." Y mae gwybodaeth yn amrywio yn ei theitlau, megys naturiol a moesoL bydol a chrefyddol. Y mae pob gwybod- aeth yn fuddiol i ddyn, ond y wybodaeth a gyrhaeddodd trwy fwyta o ffrwyth "pren gwýbodaeth da a drwg." Y mae gwybodaeth gelfÿddydol a gwyddonawl yn dra buddiol, a dylem ymdrechu ì gyraedd «rraddau helaeth o'r gwybodaethäu hyn. Ond o bob gwybodaeth a all dyn gyraedd, y wybodaeth a gyrhaeddodd Timotheus pan yn fachgen, sef "gwybod yr Ysgrythyr Lân," ydyw y ragoraf; oblegyd y mae yr Ysgrythyr Lân yn "abl i wneuthur dyn yn ddoeth i iachawdwriaeth," ac yn "fuddiol i athraw- iaethu, i argyhoeadi, i geryddu, ac i hyfforddi mewn cyfiawnder." Nî ddymunem ddyrchafu gwybodaeth Ysgrythyrol ar draul darostwng gwybod- aethau ereill; ond yn hytrach, dymunem, pe gallem, ddyrchafii gwybodaethau ereill nes cynyrchu awydd a phenderfyniad yn höll ddarllenwyr y Li,enob i wneyd eu hegni i gyraedd graddau helaeth o honynt,—ond fod gwybodaeth Ysgrythyrol yn rhagori arnynt oll, mai y Beibl yẅ Llyfr y llyfrau, a haul 7 cylch Úenyddol. Ac fel y mae y Beibl yn rhagori ar yr höll lyfrau, felly y mae y wybod- aeth a geir ynddo, y goleuni sydd yn tarddu o hono, yn rhagori ar yr holl wybodaethau a geir yn yr hòll lyfraü ereill. Md oes yr un llyfr a ddeil gydmariaeth â'r hen Lyfr. Y mae y Beibl yn mysg y llyfrau fel yr oedd &«ü yp mysg yr holl bobl, yn uwch o'i ysgwyddaU i fynu na hwynt oll. Y ^öae yn wir nad ydyw pob dyn yn gymwys i roddi barn ar ragoriaethau