Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLENOR. Rhif. 7.] GORPHENAF, 1860. [Cyfrol I. PA BETH YW HENADURIAETH ? GAN Y PARCH. CHARLES HODGE, D.D., AMERICA. CTFIEITHIEDIG GAN MR. MOEEIS DATIES, BANGOE. [Yr ysgrif isod sy gytieithia4 talíyredig o Anerchiad a draddodwyd gan y Parchedig Charles Hodge, D.D., gerbrony Gymdeithas Hanesyddol Henaduriaethol, yn eu eyfarfod blynyddol yn Philadelphia, Mai 1, 1855. Addas yw hysbysu y darllenydd cyffredin mai Henaduriaeth gymedrol yw trefn eglwysig y Trefnyddion Calflnaidd Cymreig, er nad ydynt cto yn gyffrediuol wedi derbyn yr enw. Gall yr hyn a draethir yma, fel eglurâd ar y drefn eglwysig hon, fod yn fuddiol i rai ua ddarllenasant ond ychydig ami o'r biaen.—CYF.j Wrth geisio ateb y gofyniad hwn, yr amcan yw eglurhau, yn hytrach na gwrthbrofi neu'ddarbwyllo;—dadblygu egwyddorion y trefniaht hwnw o ffurflywodraeth eglwysig y mae Henaduriaethwyr yn dal eu bod wedi eu gosod i lawr yn Ngair Duw. Gan osod o'r neilldu Erastiaeth, yr hyn sydd yn dysgu nad yw yr Eglwys ond yn unig rhyw un ffurf o'r Wladwriaeth; a barn y Oryn- wyr, yr hon nad yw yn darparu dim tuagat adeilad aílanol yr Eglwys, yr yd'ym yn cael pedwar trefhiant yn unig hollol wahanol ar y pwngc o âuraywodraeth eglwysig. 1. Ỳ trefniant Pabaidd, sydd yn hòni mai Crist, yr Apostolion, a chredinwyr, oeddynt yn cyfansoddi yr Eglwys tra yr oedd ein Hiach- awdwr ar y ddaear, a bod y trefhiant hwn wedi ei amcanu i barhau. Ar ol derehafael ein Harglwydd, daeth Petr i fod yn rhaglaw iddo, ac a gymerodd ei le fel pen gweledig yr Eglwys. Ÿ mae y flaenor- iaeth hon i Petr, íel yr esgob cyfrredmol, yn parhau i'w olynwyr, esgobiön Rhuftiin; ac y mae yr apostoliaeth yn parhau yn urdcl y Êreladiaid. Fel yn y Brif Eglwys, nis gallai neb fod yn apostól yr wn nid oedd yn ddarostyngedig i Grist, felly yn awr nis gall neb fod vn brelad yr hwn nid yw yn ddarostyngedig i'r Pab. Ac megys y pryd fcyny nis gallai neb fod yn Gristion heb fod yn ddarostyngedig i Grist yn ddarostyngol i'w rheolaeth anffaeledig.