Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLENOR. Rhif. 2.] CHWEFROR, 1860. [Cyfrol I. PERTHYNAS LLENYDDIAETH YSGRYTHYROL A LLEN- YDDIAETH A GWYBODAETH GYFFREDINOL. [PARHAD O RHIF. I. TU DAL. 6.] GAN Y PARCH. OWEN THOMAS, LLUNDAIN. 2. Fe ymddengys hyn eto, yn yr ail le, os ystyrìwn yr hyn a dybir mewn penderfynu yn gwbl pa 'beth yw y darlleniad cywir ór testyn gwreiddiol ei hunan. Ar y dybiaeth fod dadguddiad o feddwl Duw yn cael ei weinyddu i'r byd, nis gallwn feddwl am unrhyw foddion, neb weithrediad gwyrthiol parhaus, iddo íbd yn rhydd oddiwrth y gwallau cyífredin y mae pob peth y byddo gan ddyn unrhyw law ynddo yn ddarostyngedig iddynt. Fe allasai gael ei adael i draddodiad. Fe fu felly, dybyg'id, am oesoedd lawer. Ond fel yr oedd dadg-uddiedigaethau newyddion yn cael eu rhoddi, a chynwys y meddwl dwyfol ysbrydoledig yn cael ei helaethu, fe ddaeth traddodiad yn gyfrwng rhy annghymwys y trosglwyddiad. Heb ddylanwad gwyrthiol gwastadol fe gawsai ei lygru mor lwyr, yn mhen amser, nes ei golli yn hollol. Felly y mae y rhanau a ymddjr- iedwyd gyntaf i draddodiad wedi eu colli yn gwbl yn mhlith Paganiaid y byd. Y ffordd ddyogelafj adnabyddus i ni, y mae yn amlwg, ydyw ysgrifen. A dyma y cyfrwng a ddewiswyd gan y doethineb dwyfol er parhad a Uedaeniad y dadguddiad o'i feddwl i ddynion. Ond y mae yn eglur nas gallesid trwy y dull hwn ycnwaith, heb' wyrth wastadol, osgoi yn hollol yr hyn sydd yn angenrheidiol yn gysylltiedig a ffaeledigaeth. Eithr ni welodd yr Arglwydd yn dda attal hyny. Fe roddwyd y dadguddiad ganddo yn ddarostyngedig i'r holl gyfnewidiadau a'r llygriadau ag y mae pob peth dynol yn agored iddynt. Nid yw yr ysgrif wreiddiol o gymaint ag un o'r llyfrau sanctaidd ar gaeì. Nis gallwn ond dychymygu pa fath ydoedd. Nid oes genym ni ond adysgrifen- iadau o adysgrifeniadau, nas gwyddom pa nifer. Nid oedd y gelfyddyd o argraffu mewn bod y pryd hyny, nac am oesoedd ar oí