Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLENOR. Rhif. 1.] IONAWR, 1860. [Cyfrol I. PERTHYNAS LLENYDDIAETH YSGRYTHYROL A LLEN- YDDIAETH A GWYBODAETH GYFFREDINOL. GAN Y PARCH. OWEN THOMAS, LLUNDAIN. Un o ddeddfau arbenig a sefydlog y llywodraeth ddwyfol ydyw cyd-ddibyniad a chyd-wasanaeth. I ba barth bynag o honi y cyf- eiriwn ein sylw, dyma y casgliad yr arweinir ni iddo. Nid oes un gwrthddrych o'i mewn yn bod arno ei hunan nac yn bod iddo ei nunan. Y mae y naill yn ymgynal ar y llall, a'r naill yn ateg i'r llall. Nid oes yr un mor fawr nad oes arno eisieu y lleiaf, nac yr un mor fychan nas gall wasanaethu y mwyaf. Y mae yr oll yn angen- rheidiol i bob un, ac yn derbyn dylanwad oddiwrth bob un. Y mae y cwbl yn gyd-ddibynol ac yn gyd-wasanaethgar. Os edrychwn ar berthynas y byd hwn â bydoedd ereill, ar wahanol ddosbarthiadau naturiol ein byd ein hunain, ar berthynasau y gwahanol greaduriaid yn y dosbarthiadau hyny, neu ar amrywiol ranau yr un creadur,—pa olwg bynag a gymerwn,—nid oes modd i ni beidio canfod gweithred- iad prydferth, manwl, ac effeithiol y ddeddf hon. Y mae yn dyfod i'r golwg yn neillduol yn ei pherthynas â dyn. Yr ydym yn ei gweled yn nghyfansoddiad ei gorff—yn ngalluoedd a theimladau ei enaid— yn yr undeb rhyfedd a dirgeledig sydd rhwng yr ysbrydol a'r elfenol yn ei berson—yn ei gysylltiad trwy yr undeb hwnw â natur oddi- allan iddo—ac yn enwedig yn ei berthynas â'i gyd-ddynion. Y mae gwahanol ddosbarthiadau cymdeithas, dynion yn eu gwahanol orchwyhon a galwedigaethau, eu gwahanol alluoedd, amcanion, a thueddiadau, oll yn ngweithrediad y ddeddf hon, pa faint bynag o annibyniaeth ahonir ganddynt, yn cael eu gosod yn ddyledus i ereill, a pha mor hunangar bynag y gallant fod, dan angenrheidrwydd i wasan- aethu ereill. Cyjfryw yn wir ydyw ei manylder a'i heffeithiolrwydd fel mai po fwyaf a lwyddo dyn i'w lesau ei hunan, mwyaf oll y gall wasanaethu er llesad ereill. Y mae yr un ddeddf i'w chanfod hefyd yn