Skip to main content

TALIESIN. " Tri pheth y dylai Cymro ei garu o flaen dim: Genodl y Cymry; Defodau a Moesau y Cymry; ac Iaith y Cymry." Ehif. 8. CHWEFEOE, 1861. Cyf. II. TEAETHAWD AE GAMPAU AMDRJECHOL Y CYMRY. Cydfuddugol yn Msteddfod Llandilo, Mehejm, 1858. Y mae rhywbeth yn newydd, yn gystal a dyddorol, yn y testyn yma o eiddo pwyllgor Eisteddfod Llandilo; yn taro cywreinrwydd cenhedlaethol yn fwy na buddioldeb presenol,—er ar yr un pryd yn agoriad cyfleus i hanesyddiaeth y wlad. Gwir nad yw o nemawr hwys i ni yn mha bethau yr ymddifyrai ein henafiaid, (er, pe yr elid yn mhell ar hyd y llwybr yna y deuid yn y diwedd i wadu buddioldeb hanesiaeth o gwbl,)—ie, eithaf gwir nad yw yn un elw uniongyrchol i ni wybod pa ymarferiadau a hoffai ein henafiaid; eto, os oes ynom olion o barch ac anrhydedd i'r hen wroniaid hyny, y mae ynom hefyd awydd cywrain i wybod am bob peth perthynol iddynt, ac yr ydym yn tèimlo dawr"mewn pethau fuasent ynddynt eu hunain yn ddibwys, ond yn eu cysylltiad sydd yn dyfod yn destyn ymchwiliad difyrus a dyddorol. Felly yn hyn o beth : ni fuasai gwybod am y campau amdrechol gynt ond dibwys ac annyddorol, ond yn eu cysylltiad—wrth ychwanegu yr un gair bach arall—Cymry, y mae yr enaid Cymreig yn cynhyrfu yn y fan, ac yn neidio yn ddorus i'r ymchwil; y mae y ffaith fod a wnelo y " Cymry " rywbeth â hyn yn taflu dyddordeb iddo, ac yn enyn cywreinrwydd ymchwiliadòl yn y fynwes Gymroaidd. Ond efallai na fyddai hynyna yn ddigonol reswm dros roddi y pwnc hwn yn destyn Eisteddfod, gan fod rhai i'w cael sydd yn amheu y priodoldeb o roddi testynau heb ynddynt ddim yn dwyn mantais uniongyrchol; ac i foddio y cyfryw rai a hyny, gellir ychwanegu nad yw y testyn heb ei fantais, yn gystal a'i ddyddordeb cenedlaethol. A hyny yuyw, fel ÿ nodwyd yn y dechreu, am fod y campau amdrechol yn agoriad Ûed sicr i ansawdd cymdeithas ar yr adeg yr arferid hwynt; yn safon agos gywir o nodweddion yr oesau hyny. d2