Skip to main content

TALIESIN. Tri pheth y dylai Cymro ei garu o flaen dim: Oenedl y Cymry; Defodau a Moesau y Cymry; ac Iaith y Cymry." Rhip. 7. TACHWEDD, 1860. Cye. II. TRAETHAWD AR BRIF DDIEFYGION YR OES. Cyd/udduyol yn Eisteddfod Llandudoch, Dydd Llun y Sulgioyn, 1859. Mae cymeriad yn perthyn i oes yn gystal ag i ddyn ; ac fel y mae cymeriadau dynion yn gwahaniaethu oddiwrth eu güydd, felly hefyd y mae mewn perthynas i wahanol oesau. Mae yn wir fod i bob oes rywbeth sydd yn perthyn i oesau eraill; ond y mae hefyd i bob oes ryw neillduolion mewn drwg a da—beiau a rhinweddau, nad ydynt yn perthyn ond iddi hi ei hunan. Mae y cysylltiad sydd rhwng gwahanol oesau â'u güydd, yn nghyda'r dylanwad y mae y naill yn weithredu ar y llall, nes y mae hynodion un oes yn gweithio i mewn i'w holynydd, yn gwneuthur llawer o debygolrwydd rhyngddynt; ond y mae y pethau neillduol ydynt yn perthyn i un oes, ag nas gellir eu priodoli i oesau eraill, yn gwneuthur ei chymeriad yn wahanol. Md un weithred o eiddo dyn sy'n ffurfio ei gymeriad, ond y mae pob gweithred o'i eiddo yn ffurfìo rhan o hono. Felly hefyd am oes, nid cjnneriad un dosbarth o bobl sy'n ffurtìo ei chymeriad hithau, ond eiddo pob dosbarth. Rhaid edrych ar y gwahanol gjTndeithasau gwladol, dyngarol, a chrefyddol—ar bob dosbarth o ddynion, o'r cyfoethog hyd y t'lawd—o'r mwj-af hael hyd y cybydd mwyaf ei drachwant—■ ac o'r dyn goreu hyd y dyn gwaethaf, cyn gweled cymeriad oes. Mae deall cymeriad yr oes ydym yn byw j'nddi, yn ddyledswydd orphwysedig ar bob dyn. Canmolid meibion Issachar, am " wybod beth a ddylai Israel ei wneuthui'." Yr oedd y Phariseaid yn wrthddrychau cerydd ein Harglwydd am nad oeddynt yn deall " arwyddion yr amserau." Deallent "wyneb y wybren," ond deall nodweddion a hynodion yr oes ni fedrent; er fod Ûawer o honynt wedi eu cerfio a'u hargraffu gan law Duw ei hun. Ac nid yn unig y mae yn bechod i ddyn esgeuluso ei ddyledswyddau, ond y mae mantais iddo o'u cyflawni, Pwy mor llwyddiannus yn ei anturiaethan a'r^hwn sy'n deall cymer-