Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TALIESIN. •' Tri pheth y dylai Cymro ei garu o flaen dim: Cenedl y Cymry ; Defodau a Moesau y Cymry; ae Iaith y Cymry." Ehif. 4. CHWEFEOE, 1860. Ctf. I. BEIBNIADAETH HANESIOL. BÜDDUGOL TN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MERTHTR, MEDI 21 a 22, 1859. " Pa betb.au bynag sydd wir—meddyliwch am y pethau hyn."—Patjl. PENîTOD I. Hafestddiaeth. Mae Hanesyddiaeth yn dyfod yn boblogaidd iawn yu y dyddiau presenol. Nid oes dim a chymaint o duedd ynddo i agor y meddwl, fel ag i addasu dyn at unrhyw alwedigaeth yn y bywyd hwn. Hawlfraint neullduol y meddwl dynol yw myned yn ol, megis i feddau y cenedlaethau a aethant heibio, ac adgyfodi eu meddyliau a'u gweithred- iadau hwy at ei wasanaeth ei hun. Gall rodio trwy gyfrwng hanesydd- iaeth ar hyd llwybrau ei gyndeidiau, a'u hail boblogi â dynion byw, fel yr oeddent oesoedd yn ol. Peth ardderchog yw gallu ail ymladd rhyfel- oedd y byd, neu eistedd yn ei gynadleddau ochr yn ochr â Themistocles yn Salamis, Csesar yn Pharsalia, Cromtf ell yn Nghaerwrangon, a Well- ington yn Waterloo ; neu gyda Socrates ar swpper, Cicero yn y senedd, ac Alfred Fawr a'i Salmau yn ei law yn Athelney; a chyd-rodio gyda Cholumbus, ar hyd y tiroedd newyddion oeddent \redi codi fel breuddwyd o'i flaen, ac yn dadguddio iddo olud nad oedd gan ei gydwladwyr un dychymyg am dano. Mae llawer iawn o gyfleusderau gan ddynion yn bresenol i fyfyrio hanes. Mae gweithiau yr hen haneswyr G-roegaidd a Lladinaidd wedi eu cyfieithu, eu hesbonio, a'u cyhoeddi mewn argraflîadau rhad; ac felly mae yr hen groniclau Saxonaidd, a Pfrengaidd, pa rai o Gregory o Tours hyd ÍFroisart ydynt drysorau cyfoethog o hanesyddiaeth i bob darllenydd. D2