Skip to main content

TALIESIN. "Tri pheth y dylai Cymro ei garu o flaen dim: Oenedl y Cymry; Defodau a Moesau y Cymry$ ac Iaith y Cymry." EniF. 3. TACHWEDD, 1859. Cyf. I. MANTEISION DIWYDEWYDD A DABBODAETH I'E BOBL WEITHGAB. Buddugol yn Eisteddfod Llanellì, CforpTienaf 1856, Mae yr egwyddor o ddarbod, neu barotoi erbyn yr amser dyfodol, yn gyfryw yn ei gweithrediad ag i ddangos ei hun, a phrofi ei bodolaeth", i bob uieddwl ystyriol trwy yr lioll greadigaeth. Mae y creaduriaid a'r adar yn dylyn eu greddf o hiliogaethu, er mwyn cadw i fynu eu rhywog- aethau yn y byd, pan y byddo tymmor eu bodolaeth hwy eu hunain wedi darfod. Heb hyny, byddai y byd yn rhwym o anghenrheidrwydd i ddarfod, o ran dim a allent hwy wneyd tuag at ei gadw mewn gweith- rediad, pan y byddent hwy yn gollwng eu hanadliad diweddaf. Ond rhag i'r fath drychineb gymeryd lle, y maent, yn unol â gosodiad deddfol eu doeth Greawdwr, yn "ífrwytho ac amlhau," a thrwy hyny yn llenwi y ddaear, ac ateb yn oíferynau dedwyddwch y naill i'r líall, a gogoniant i'r Hwn a'u "gwnaeth hwynt oll mewn doethineb." "Wrth sylwi hefyd ar arferion y gwahanol greaduriaid, ni a ganfyddwn fod rhai o honynt—y rhai y mae y peth yn gorphwys yn anghenrheidiol arnynt—yn parotoi yn amser llawnder erbyn dyfodiad adeg prinder. "X cwningod nid ydynt bobl nerthol, eto hwy a wnant eu tai yn y graig." "Cerdda at y mor- grugyn,.........y mae efe yn parotoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynauaf." Hyn yw arferiad gwastadol y creaduriaid diwyd n7nyj J gwenyn. Ar ddynesiad haf, byddant i'w gweled yn brysur yn parotoi erbyn y delo y gauaf, trwy gasglu i'w cwch ystoraid dda o fêl. Yn nhymmorau y flwyddyn hefyd ni a allwn weled fod y naill dymmor jti gwasanaethu fel rhagredegydd, ac yn rhagbarotöawl, i dymmor arall.