Skip to main content

TALIESIN. 'Tri pheth y dylai Cymro ei garu o flaen dim: Cenedl y Cymry; Defodau a Moesau y Cymry; ac Iaith y Cymry." Ehif. 2. AWST, 1859. Cyf. I. ŵittttjiraẁ AR ANGENRHEIDRWYDD GWEINYDDIAD Y GYFRAITH YN GYMRAEŴ, YN NHYWYSOGAETH CYMRU. Testun Oymdeitìias Gymreigyääol Llynlleijtad, 1836. Y mae godidawgrwydd a phwysfawredd y testun hwn yn ein rhwymo i gyfaddef yn ostyngedig nad ydym yn meddu doniau, dysgeidiaeth, na manteision addas i draethu arno. Ond wrth ganfod ei í'od yn sylfaen- edig ar greigiau cedyrn cyfiawnder a rhesymoldeb, a bod llesâd cyffredinol y genedl Gymroaidd yn nglyn â'r pwnc,'nis gallwn ymattal rhag gosod allan ein gwael olygiadau arno heb fod yn euog o " esgeuluso y ddawn sydd genym." Addefir yn gyffredinol fod dyn ar y cyntaf wedi ei greu yu greadur cyfiawn, sanctaidd, a da; aphe buasai wedi parhau yn ei gyflwr o ddini- weidrwydd, na fuasai uu angenrbeidrwydd i'r Jehovah argraphu ei ddeddf sanctaidd ar lechau o gerrig, na chwaith un angenrheidrwydd am ddeddfau dynol. Ond y ffaith alarus yw, fod dyn drwy anufudd-dod i orchymyn ei Greawdwr wedi colli ei ddelw dduwiolaidd, a phob tuedd i ymagweddu yn ol deddf ei Frenin a'i Dduw. Daeth trwy ei gwymp yn elyu gwir- foddol a gwrthryfelgar yn erbyn Uês a dedwyddwch cymdeithas yn gyffredinol. Cymaint oedd tywyllwch, llygredigaeth, a geìyniaeth calon dyn nes oedd " holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser," trwy yr hyn y llygrwyd ac y llanwyd y ddaear â phob trawsedd. Ond dangosodd yr Arglwydd yn gyhoeddus i'r byd, drwy