Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. GWELLHAD Y MEDDWL. Amlwg yw focl dyn wedi ei osod mewn sefyllfa uweh nag un o greaduriaid y ddaear. Efe ydoedd llywydd ac arglwydd y greadigaeth ar y dechreu. Talai y creaduriaid direswm warogaeth iddo fel y cyfryw; a gwnant yn awr, pan mewn sefylifa o ddirywiad, er nad i'r un gradd. Nid yw y cy- mhwysder sydd ynddo i'r sefyllfa yma mewn un modd i'w briodoli i ogoniant a mawredd ei ymddangosiad allanol. Gwir yw, mai " ofnadwy a rhyfedd" y gwnaed ei gorff, ond nid digon oedd hyn i'w gymhwyso i sefyll ar fiaen creaduriaid y ddaear. Ond yr hyn sydd yn rhodcü yr uchafiaeth yma iddo ydyw, ei fod yn berchen meddwl—fod enaid yn cartrefu yn ei gorff. Dyma oedd, ac ydyw prif ogoniant dyn. Yr oedd meddwl dyn, pan yn ei sefyllfa o ddiniweidrwydd, yn sanctaidd, pur, dihalog; ac wedi ei lenwi â gwybodaeth a gwir ddoeth- ineb. Ond pan y collodd dyn ddelw Duw, pan aeth ei natur ar ddirywiad, disgynodd i drueni, collodd ei sancteiddrwydd a'i buredigaeth, ac aeth ei feddwl, yn lle bod yn gartrefie doethineb, yn nyth i dywyllwch ac anwybodaeth. Fel hyn eyfarfyddodd y meddwl dynol â'r fath ddinystr—adfeiliodd yn y í'ath fodd, fel nad ydyw yn gwahaniaethu ei berchen ond ychydig iawn oddiwrth y creadur direswm. Dywed yr Ys- grythyr fod yr anwybodus fel yr anifeiliaid a ddyfethir. Pe yr edrychem ar y barbariaid anwar, gwelem eglurhad goleu ar hyn. Y mae ei dueddiadau anifeilaidd yn gorbwyso cymaint ar ei alluoedd meddyliol, ne3 ein gwneyd braidd i ddirgel gredu nad ydyw yn fod rhesymol. Y mae ei feddwl megys mewn hûn, a chwsg wedi selio amrantau ei ddeall, a'i reswm wedi ei byiu. Nid ydyw yr heliwr anwar ond tebyg iawn i'r bwystfìl y mae yn ei hela. Tueddiadau ysglyfaethus sydd yn y ddau: bwyta, yfed, a chysgu ydyw, braidd, eu hunig w«ith- redoedd. Onid crochanaid cig oedd y gwrthddrych mwyaf dymunol a welodd un o honynt yn ei fywyd ? Y mae yma feddwl er hyny, ond ei fod mewn anghen am ei lanhau, ei ddiwyllio, a'i ddwyn i arferiad. Y mae y rhai hyn yn anghreifft- iau o berffaith dywyllwch ac anwybodaeth. O drugaredd y nef, nid ydy w y Cyinry yn y fath sefyllfa; eto y mae cannoedd Medi, 1852.] " G