Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. LlythyraTi at y Beehgyn. V. CoLEDD AMCAN UCHEL AC ANBHYDEDDUS, A PHERI I'W CABIAD ATO GYD-DYFU A HWY EU HÜNAIN. " Y dyn a gaffo enw da, A gaiff gan bawb ei goffa."—L. Glyn Cothi. Anwyl John, Yr ydwyt wedi sylwi cyn hyn fod gan ddyn lawer iawn o bethau i'w gwneyd yn y byd yma, heblaw byw, heblawmyned trwy y drefn sefydledig o lafur a gofal, y rhaid iddo dalu sylw iddi, er cynnal corff ac enaid mewn undeb â'u gilydd. Wrth i ti edrych ar lawer iawn o bobl, mae yn wir na weli fod eu byw yn cyrhaedd at ddim mwy. Mae bywyd, gyda'r lliaws, yn cael ei gau i fyny i ryw bwynt bychan i'w ryfeddu, dim ond parhau a pharhau mewn sefyllfa foddus. Fel y dy- wedodd un o'r hen athronwyr, " Y maent yn byw er mwyn bwyta." Y maent yn byw, mae yn wir, ond nid oes yr un amcan i'w bywyd; a'i unig werth ydyw, ei fod yn rhoi cyf- leusdra iddynt i foddhau chwantau ac angheuion y natur anifeilaidd. Nid yw eu chwaeth ond ychydig iawn, os dim, uwch nag eiddo yr Afírican gynt efo Moffat y cenadwr— " croehan mawr yn llawn o gig yn berwi"—y gwrthddrych ìnwyaf ysplenydd allai ei galon ddymuno o bob peth dewisol creadigaeth Duw i gyd. Yn sicr y maent yn "gyffelyb i'r anifeiliaid a ddyfethir." Ond ai fel yna y dylai pethau fod ? A ydyw dyn, sydd wedi ei fendithio âg enaid a chalon, sydd yn gyfaddas i eistedd wrth draed doethineb, sydd yn alluog i gyflawni gorchestion, sydd yn alluog i yru ei feddylfryd ym- liell, i'w gadwyno uwchhen cwestiynau trymion, ennill y feistrolaeth arnynt, deall deddfau y bydoedd, ac amgyffred saerniaeth ffurfafen Duw, ac esgyn yn uwch o lawer—myned trwy gyntedd y greadigaeth weledig, trwy y llen i'r byd ysbryd- ol, edrych yno ar y " Brenin tragywyddol, anfarwol, ac an- weledig"—ymgrymu ger bron ei ogonianí gyda phreswylwyr dysglaer y lle, ac yn enwedig rhoddi y galon i ymorphwys arno yn yr Iawn mawr, a theimlo fod nerth a sefydlogrwydd yn ei hattegu, purdeb sancteiddiol yn ei glanhau, a heddwch fel yr Rhagfye, 1853.] n '■:'