Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. Jolbn Colvin. John CoLVtîí ydoedd un o Gyfammodwyr Ysgotland. Cafodd gryn lawer o'i erìid yn achos ei grefydd,fely dengys yr lianes- ion canlynol. Ond er darfod ei erlid ef, eto bu heb ei ladd. Eu lladd a gafodd cannoedd o'r Cyfammodwyr, gan na dder- bynient y grefydd esgobaethol, neu mewn geiriau eraill, gan nad ymostyngent i Eglwys Loegr; a'u llofruddio hefyd yn y modd mwyaf barbaraidd a chreulawn gafodd Hawer o honynt. Edrychent hwythau, o'r ochr arall, ar y grefydd esgobolyr uo peth a Phabyddiaeth; a chredent, os cofleidient hi, y byddent wrth hyny yn cofleidio anghrist. Erbyn heddyw, mae llawer yn gweled nad oeddynt ymhell allan o'u lle, pan yn credu felly. John Colvin, a'i wraig ieuangaidd, Sarah Gibson, oeddynjfc yn byw mewn Ue a elwir Dormont, yn Annandale, yn Ysgotland. Yr oeddynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, mae yn ddigon anilwg; ac hefyd yn rhodio yn holl orchymyn- ion a ddeddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. Ac nid hyny yn unig, ond yn rhodio ynddynt gyda mawr ymroddiad, o lwyr íryd calon; yr oeddynt yn hynod ymhlíth y brodyr. Ac hefyd yr oedd plentyn iddynt. Byddai tŷ y pâr dedwydd hwn yn Dormont, bob amser, yn agored i dderbyn y pererinion â'r fl'o- aduriaid yn achos eu crefydd; a gweinyddid iddynt bob ym- geledd a nodded a ellid yn nydd eu hadfyd, a hyny gyda'r sirioldeb a'r parodrwydd mwyaf. Ond, drwy eu llettygarweb parhaus i'r dyoddefwyr esgymunedig, daeth John a'iwraigo'r diwedd yn rbai mor hynod, ac yn wrthddrychau o'r fath sylw a pharchedigaeth, fel y barnodd yr erlidwyr fod yn hen bryd eu dyfetha allan o'r ffbrdd; ac felly, penderfynwyd cadw llygajl|l arnynt i'r perwyl hwnw. Mewn amseroedd enbyd, fel yr amser y cyfeiriwn ato yn Ysgotland, gorfodir dynion i ddychymygullawer o ddyfeisiau, ac i arfer rhai castiau, ond odid, er amddiflyn eu hunain mewn mynydau o berygl, a hwnw yn dyfod weithiau yn hollol ddirybudd ac annysgwyliadwy. Felly yr oedd yn y bwthyn Tachwedd, 1853.] m