Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. Sem, Cam, a Japheta, neu dadau ein byd. Mae yr hanes saìictaîdd yn bur fyr, gyda golwg ar hynafiaád y hyd wedi y dylif; ac felly, yn gyftredin, ëir heibio iddynt yn ddisylw gan haneswyr. Ond y mae hynyyn draanhawdd, wrth feddwl mai hwynthwy ydyw tadau holl genedloedd y ddaear. Gwyddom fod hyn yn ammheus yn Brydain ac America, a lleoedd eraill; ond y mae gweithiau ardderchog Dr. Prichard, ac eraill, wedi cyflawn ateb y gwrthddadleuon a ddygir yn erbyn yr athrawiaeth Feiblaidd o ddisgyniad holl ddynolryw o Noa, trwy ei feibion, Sem, Cam, a Japheth. Gallem ddwyn llawer o brofion o hyn, Nid yw gwahanol lwythau y ddaear, a'u gwahanol liwiau, na dull eu gwedd yn un gwrthwynebiad i hyn; a gall y sylwedydd craff ganfod yn yr un teulu, ymhlith plant yr un tad a mam, ddigon o amryw- iaeth wyneb, creuan, ft'urf, ystum, a maint, i fodyn frawd neu chwaer i'r rhan fwyaf o genedloedd y ddaear. Nid awn i yrahelaethu yn y dull hwn, ond ni gawn daflu cipolwg ar dri mab Noa—hynafiaid y byd werìi y dylif. 1. Skm. Hwn yw y gair Hebraeg am " enw," neu " fri." Efe ydoedd mab hynaf Noa. Yn ngwahanodiad yr 21ain adnod o'r lOfed bennod o Genesis, gelwir Japheth yr hynaf, ond dylai gael ei darllen, Sem, brawd hynaf Japheth. Ac fel yr oedd duwiolion, y pryd hwnw, yn ymgynghori â'r Jehofa yn mhob peth braidd, ac yn enwedig ynghylch eu hiliogaeth ; a thrwy fod " Noa yn rhodio gyda Duw," ac yn gyfaill nod- edig iddo, gallwn fod yn sicr fod genedigaeth ei gyntafanedig yn amser o weddiau dwys; ac y mae yn dybygol fod ei enw wedi ei gael oddiuchod, a'i fod yn brophwydoliaethol am hel- yntion dyfodol ei fab. Y mae yma gyfrol o fywgrafBad yn ngeiriau Noa—" Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem;" ac yr oedd yr ymddygiad crefyddol a mabaidd, a pha un j darfu iddo ddadgan y teimlad hwn, yn brawf diammheuol ei fod yn fwy na chredadyn mewn enw. Yr oedd yr ymadrodd hefyd yn brophwydoliaethol, ac yii arwyddo hefyd fod " Arglwydd Dduw Sem" i gael addoliad Htdbbf, 1853.J ii