Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. Cynghor Henadtir i'w Fab. Lltthte III. Hoffus Fab. Wedi i mi roddi o'th flaen yn fy lìythyr diweddaf ryw gy- maint ara dy alwad i'r swydd o fod yn flaenor yn eglwys Iesu Grist gyda y Trefnyddion Calfinaidd, yr ydwyf yn y llythyr hwn ani dy gynghori, " fel y gwypech pa fodd y maeyn rhaid i ti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw by w :" 1 Tim. iii. 15. Gan i ti gael dy ddewis i'r swydd fel blaenor, gwasged y geiriau hyn ar dy feddwl yn wastadol—" pa fodd i ymddwyn yn nhŷ Dduw." Gan dy fod wedi dy osod yn y swydd bwysig o flaenor yn nhý Dduw, y mae yn rhaid i ti ymddwyn yn ol gair Duw, neu byddi o niwed mawr; ac o'r ochr arall, osym- ddygi yn ol y rheol ddwyfol, byddi o les mawr. Gan hyny, mi roddaf o'th flaen ryw bethau ac ymddygiadau drwg i'w gochelyd; ac i'r dyben i ti eu cofio yn well, mi roddaf rif wrth yr amrywiol ocheliadau a roddaf o'th flaen. 1. Gochel fod yn ddarllenydd bychan; h. y., darllen rhy ychydig ar y Beibl, ac hefyd ar lyfrau da. Cof genyf fod yn lioli blaenor am ei wybodaeth am athrawiaeth yr efengyl. Wrth ei fod yn hynod o fyr ei wybodaeth, gofynwyd iddo, " Pa lyfrau sydd genych ?" " Mae genyf eitha' Beibl," ebe yntau. oofynwyd, "a ydyw llyfr Gurnal genych?" "Nag ydyw." " A ydyw gwaith duwinyddol Watson, a'r ' Geiriadur Ys- grythyrol' o waith T. Charles genych?" "Nag ydyw." Ÿna, pan gynghorwyd ef i ymdrechu eu cael, ynghyd â llyfrau buddiol eraill, efe a ddywedodd, " Y Beibl ydyw fy llyfr i, 'does gen' i fawr o goel ar waith dynion." A buan y deallwyd nad oedd ef mewn gwirionedd yn darllen ond ychydig ar y Beibl. A phan ddechreuodd ef ddarllen y Beibl o ddifrif, gwelodd fod yn lled anhawdd iddo ddeall fawr o'r Beibl, hebgynnorth- wy llyfrau da eraill. Gochel dithau fod yn ddiystyr o lyfrau da; darllen lawer ar yr holl Feibl, myfyria lawer ar y Salmau, Medi, 1853.] ' k